Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NEDW:

Ystori bachgen bywus a hollol naturiol. Llawn direidi a phranciau doniol ryfeddol. Gan y PARCH. E. TEGLA DAVIES. Gyda chwech o ddarluniau da. Llian, 2/-

Dyma ddywed yr ATHRO W. J. GRUFFYDD, yn Y Llenor:—

"Nid yn rhy aml, ysywaeth, y ceir cyfle i groesawu gwaith sy'n ddiamheuol, yn ei ffordd ei hunan, ar ben y dosbarth blaenaf. Ni allaf feddwl am un llyfr o'r fath allodd Lloegr ei gynhyrchu y gellir ei gymharu am funud â gwaith Mr. Tegla Davies: rhaid myned i America, i wlad Tom Sawyer a Huckleberry Finn am gymheiriaid i'r rhai hyn. Hanes hogyn,—a hwnnw'n hogyn arbennig o gynhesol a deniadol ydyw NEDW, a dychmygwyd ef gan ŵr sydd a chanddo gydymdeimlad perffaith a "hir feddyliau ieuenctid" a dawn ddigonol i fynegi ei ddealltwriaeth. "Dawn ddigonol" meddaf, ac wrth hynny yr wyf yn golygu nad oes cymaint rhagoriaeth ar y ddawn, er ei chystal, ag sydd ar y dychymyg,—ac yn wir, ni ddigwydd hynny ond yn anami iawn yn hanes llenyddiaeth.

Disgrifio byd y mae NEDW, y byd mewnol hwnnw sydd ym meddwl hogyn, y byd y buom i gyd yn byw ynddo rywdro, a byd, yn ol dysgeidiaeth Crist, y mae'n rhaid inni fynd iddo eto rywdro, os am ddiweddu'n dda, a chyfraniad y llyfr hwn yw rhoi yn nhabernacl Cymru ystafell arall sy'n gyforiog o sancteiddrwydd a glendid, lle yr ymgryma pob dyn ystyriol ac yr addola, y man sancteiddiolaf hwnnw y gwyddai Wordsworth a Blake am dano. Ac yn wir, yn y bennod oreu yn y llyfr, "Rhen Nedw," dengys yr awdur yn amlwg ei fod yn un o'r etholedig sy'n gwybod am y teimladau ecstatic.

Yn y bennod hon, ac yn Sec, y mae'r awdur ar ei oreu a'i uchaf ; yr ydych yn teimlo drwyddynt nad oes yr un teimlad o'i le, na'r un gair yn rhy fychan nac yn rhy fawr yn y mynegiant; a mae'n disgrifio pethau sy'n dragwyddol eu parhad, pethau na newid er i holl adeilad cymdeithas fyned yn chwilfriw, y pethau hynny sy'n gwneuthur y byd yn hardd ac yn werth ysgrifennu am dano........ Yr wyf yn ei theimlo'n anodd ymadael a NEDW."

"Ystori yn llawn donioldeb, difyrrwch a direidi iach. Ni ŵyr neb yn well am ogwydd ac athrylith plentyn na TEGLA." -Yr Efrydydd.

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR, WRECSAM.