Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Matholwch yn dyfod i Gymru.

RHWNG Cymru ac Iwerddon y mae gwrhydri'r bodau hyn. Yr oedd rhyw ddirgelwch mawr bob amser ynglŷn ag ynysoedd y môr. Credid mai iddynt hwy yr âi pobl ar ôl marw, ac mai ynddynt hwy y trigai llawer o'r duwiau, fel nad oes ryfedd yn y byd fod â wnelo'r stori gymaint ag Ynys Iwerddon ac Ynys Fôn.

Bran neu Bendigaid Fran yw'r hwn a ellir ei alw yn arwr yr hanes, a'i chwaer Branwen yn arwres. Dywedir bod Bran yn adeg yr helynt mawr a fu yn hanes Branwen yn frenin coronog ar Ynys Brydain, a elwid yr adeg honno yn Ynys y Cedyrn, tystiolaeth go dda i'w syniad hwy