Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mynnu ymgyfathrachu â thydi, arglwydd," ebe hwynt. "I erchi Branwen ferch Llŷr y daeth ef. Ac os da gennyt ti, ef a fynn ymrwymo Ynys y Cedyrn ac Iwerddon i gyd fel y byddont gadarnach."

"Ie," ebe'r brenin Bendigaid Fran, "doed i'r tir, a chyngor a gymerwn ninnau am hynny."

A dyna'r ateb a gludwyd gan wŷr y llong yn ôl i frenin Iwerddon. Synnwch glywed Bendigaid Fran yn ei frawddeg gyntaf yn sôn am Dduw,— "Duw a roddo dda i chwi." Rhaid yw i chwi gofio'r hyn a ddywedais eisoes, mai ar ôl i'r hen Gymry anghofio mai duwiau oedd y bodau hyn y daeth y stori fel y mae hi gennym ni. Erbyn hyn yr oedd y Cristionogion wedi dechreu ei