Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r gwŷr mawr yn ymgynghori ynghyd, a phenderfynwyd rhoddi Branwen yn wraig i Fatholwch. Dywedir amdani mai hi oedd trydedd prif riain yr ynys hon, ac nid rhyfedd hynny os hyhi oedd duwies cariad a phrydferthwch yr hen amser gynt. Hi, ebe hwy, oedd y decaf forwyn yn yr holl fyd.

Penderfynwyd mai yn y llys arall llys Aberffraw yn Ynys Fôn—yr oedd y ddau i briodi, ac i niferoedd gwŷr Bran a niferoedd gwŷr Matholwch gyrchu yno ar unwaith i'r wledd briodas, Matholwch a'i niferoedd yn eu llongau, a Bendigaid Fran a'i niferoedd yntau ar hyd y tir.