Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hanes y Pair.

YR oedd y pair rhyfedd yn achos dyryswch mawr i Fatholwch. A'r ail nos wedi ei ddychwelyd holodd Fendigaid Fran yn ei gylch.

"Arglwydd," eb ef, "o ble y daeth iti y pair a roddaist i mi?"

Dengys atebiad Bendigaid Fran fod cysylltiad rhwng hen grefydd y Cymry a hen grefydd Iwerddon, mai'r un duwiau a addolent gynt, ac mai'r un rhai oedd eu harferion crefyddol. Ac ni ellir esbonio'r gŵr a'r wraig rhyfedd y sonnir amdanynt yma gan Fendigaid Fran ond drwy ddywedyd mai darn o hen stori am helynt y duwiau wedi dyfod i mewn i'r stori hon yn