Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn. Y dyffryn lle y saif Corwen arno yn awr yw Edeyrnion. Enwau'r gwŷr a adawyd ar ôl oedd Caradog fab Bran, Efeydd Hir, Unig Glew Ysgwydd, Iddig fab Anarawg Walltgrwn, Ffodor fab Erfyll, Wlch Minasgwrn, Llasar fab Llaesar Llaesysgwydd, a Phendaran Dyfed. Dyna i chwi enwau digon praff i godi ofn ar unrhyw un. Gwas ieuanc iddynt oedd Pendaran Dyfed. I'r saith hyn yr ymddiriedwyd y gwaith o ofalu am yr ynys hon yn absenoldeb Bendigaid Fran, a Charadog fab Bran yn ben goruchwyliwr arnynt.