Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gymry amdano yn dduw'r cerddorion,— mai iddo ef yr aberthent pan fyddent eisiau help i ganu, ac mai ef a'u hysbrydolai i'r gwaith. Cerdded drosodd i Iwerddon a wnaeth ef, a'i wŷr mewn llongau ar ei ôl. A deuwn yn y man at wrhydri arall ddengys fod olion yr hen syniad amdano fel duw yn glynu wrth y traddodiad amdano o hyd.

Yr oedd gweision moch Matholwch ar y lan, ac yn ei wylio. Rhedasant at Fatholwch,—

"Arglwydd," ebe hwy, "henffych well."

"Duw a roddo dda i chwi," eb ef, "pa chwedlau sydd gennych? "

"Arglwydd," ebe hwy, "y mae gennym ni chwedlau rhyfedd,—coed a welsom ar y môr yn y lle na welsom erioed un pren."