Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dau frawd, ond cydiodd Bendigaid Fran ynddi yn y naill law, ac yn ei darian â'r llaw arall. Ac yna cyfododd pawb yn y tŷ, ac i'w harfau, a dyma'r cynnwrf mwyaf a fu mewn un tŷ erioed. Ac fel yr oedd pawb yn defnyddio eu harfau daliai Bendigaid Fran Franwen rhwng ei darian a'i ysgwydd.

Cofiodd y Gwyddyl am y pair a roddodd Bendigaid Fran yn anrheg i Fatholwch, y pair os teflid gŵr marw iddo y deuai'n fyw drachefn, ond na byddai lleferydd iddo. Cyneuasant dân o dano, a bwriwyd cyrff y milwyr marw iddo onid oedd yn llawn, a thrannoeth cyfodent yn fyw yn gystal milwyr â chynt, ond na allent ddywedyd dim.

Wrth weld hyn, ac yn enwedig wrth weld gwŷr Ynys y Cedyrn yn aros yn farw, ymddengys fod Efnisien wedi rhyw