Tudalen:Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys Cyf I.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

canys os ydyw efe mewn rhai cyssylltiadau yn troi au ac ae yn a yn ôl arfer y Gogleddbarth, y mae efe yn fynnych hagen yn troi ai yn e yn ôl arfer y Deheubarth a'r Canolbarth.

Diau y bydd yn ein gwlad ni, fel y bu yng ngwlad Groeg, ryfel hir rhwng pobl yr a â phobl yr e, ac na bydd heddwch perffaith hyd oni chyt- tuna Ioniaid y De a Doriaid y Gogledd i arfer llediaith arall fwy cyffredinol, a fyddo'n cyfranogi o nodweddion eu lledieithoedd neillduol hwy, sef Cymraeg Attig; yr hon a fydd yn rhy fain i fod yn llydan fel Cymraeg Dorig, ac yn rhy lydan i fod yn fain fel Cymraeg Ionig.

Gwarchod fi! a ydwyf finnau hefyd ym mhlith y rhagymadroddwyr? neu a euthum i yn debyg i fân ddwnedwyr newyddiaduron Cymru, y rhai sy'n mynnu traethu eu hopiniynau eu hunain yn lle cofnodi yn syml yr hyn a welsant ac a glywsant? Bellach, llefared arall; a chadwer finnau rhag dodi cymmaint â "Chlywch, clywch" rhwng crymfachau[1]:

GYFEILLION, Fel y mae'n hyspys ichi, yr ydwi heddiw yn mynd i dreuthu yn fras ar ACHOSION CWYMP PROTESTANIATH YNG 'HYMRU; a chann fod yr achosion hynn yn llawer, ac yn amriwio o bryd i bryd, diau yr ymddengys fy

  1. Er nad yw yn perthyn i mi ymdrafferthu i gadarnhau yr hyn a ddywedir gan un arall, etto, wrth arch y Golygydd, yr wyf yn cyfeirio ar odre'r dalennau at y llyfrau y mae yn hawddaf i'r darllennwr cyffredin eu cael a'u deall, er mwyn chwilio "a ydyw y pethau hyn felly."
    Rhag i ddarllenwyr tra ieuaingc, a mân feirniadon dienw ac anenwog, wneyd eu hunain yn ffyliaid, fel y gwnaeth rhai eraill gynt, ar ôl ymddangosiad De Foe's Shortest Way with Dissenters, efallai y dylwn hyspysu y bydd fy amcan yn cyhoeddi yr araith hon yn fwy amlwg yn y rhan olaf o honi. Ac os na bydd yr amcan hwnnw yn gymmeradwy gan bob gŵr sy'n rhoi mwy o fri ar Gristionogaeth a Chymroaeth nag ar sectyddiaeth Seisnig- add, yna fe fydd yn rhydd i'r Golygydd gyhoeddi yn niwedd y gyfrol ym mha le yr wyf yn trigo, fel y gallo pleidwyr rhyddid barn a llafar gael hyd imi, ac ymddwyn tuag attaf yn ôl eu hanian a'u harfer.
    Gan fod y cyfundeb cryfaf yng Nghymru," alias yr Hen Gorff," yn "wan trwy y cnawd," hynny ydyw, yn dra chroen-deneu; ac heb ddysgu goddef, hyd yn noed mewn cylchgrawn cenedlaethol, i Gatholigion ysgrifennu am y Protestaniaid fel y bydd y Protestaniaid yn ysgrifennu am y Catholigion, yr wyf, gan gyd-ymddwyn a'i wendid ef, yn gadael allan y pethau hyllion a ddywedodd yr areithiwr am gymmeriad Calvin.—Y Cofnodwr.