Tudalen:Bro fy Mebyd a Chaniadau Eraill.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WEDI'R FRWYDR.

WEDI'R frwydr gwelais filwr
Grymus dan ei graith;
Tuag adref yn orchfygwr
Difyr oedd ei daith;
Edrych arno i'w edmygu
Wnai pelydrau'r haul;
Ysgwyd dwylaw, gorfoleddu
Wnai y coed a'r dail.

Hawdd oedd gadael bro yr ornest
Wedi'r frwydr hon;
Gwyddai hwn am bris y goncwest
Brynwyd ar ei bron;
Hawdd oedd gadael beddau ieuanc
Ar y werddlas ddôl,
Cri ei enaid oedd am ddianc,
Byth i ddod yn ôl.

Gwywo ymaith wnai'i atgofion
Am ororau'r drin;
Balm croesawiad lanwai'r chwaon
Fel costrelau gwin;
Mynd ymhellach oddiwrth ofid
Wnai o gam i gam,—
Mynd yn nes i hedd a rhyddid
Aelwyd tad a mam.

Minnau adref wyf yn nesu
Gyda hwyr y dydd;
Llwch y frwydr wedi gwynnu
'Mhen dolurus sydd;
Miwsig y Tragwyddol Bebyll
Glywaf ar y lan,
Mwyn fydd cyrraedd fry a sefyll,—
Sefyll yn fy rhan.