Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ediad. Yr oedd wedi gwenu cymaint yn ei fywyd nes gwneud rhychiau dyfnion i lawr dros ei ddwy rudd ac ar hyd ei dalcen, ac yr oedd y rhychiau hynny a lliw ei wyneb yn atgofio Gwen o groen y darn cig moch hongiai dan y simne gartre. Ond yr oedd rhywbeth yn fyw a llawen iawn yn ei wedd, ac yr oedd direidí a natur dda yn pefrio o'i lygaid.

Dyma hefyd y tro cyntaf i Gwen siarad ag un nad oedd yn Gymro, ac er fod Fred wedi treulio blwyddyn ym Minyrafon fferm ar dueddau Sir Gaer—cyn dyfod y calangaeaf cynt i Faesyryn, pur anhebig i iaith y rhan honno nac unrhyw ran arall o Gymru oedd ei Gymraeg. Yr oedd hyn yn beth newydd i Gwen, ac yn hynod ddiddorol, ac yr oedd cwmni Fred fel yn rhyw gil—agor drws y byd pell, cyfrin, yr hiraethasai am dano. Er mai "hen Sais" oedd,—creadur a'i bosibliadau i gyfeiriad drygioni yn ddiderfyn ym marn pobl y wlad,—daeth Gwen ar unwaith i siarad yn rhydd ag ef, a chwarddai yn galonnog ar ei ymdrechion i wneud ei hun yn ddealladwy iddi.

Gwnaeth dull rhydd Gwen i'r Sais ddyfod yn ddigon eofn i ddweyd',—

"Ti sharad Sisneg nawr, finne wherthin."

Cafodd ei gyfle pan atebodd Gwen gyda'r cynaniad a ddysgasai yn yr ysgol yn Sir Gaer,—

Ei olwes read to mei grandfather. Ei can read and enderstand English, but ei don't leik to toke it. The words wont come with me.

Gwenodd Fred a dywedodd,—

"The words would come easily enough if you practised. You ought to talk to someone very often, someone who knows how to speak English correctly."

Here iss ower hows," ebe Gwen, "and grandfather iss waiting forr me.

"Le buest ti, lodes?" ebe Dafydd Alun, gan edrych yn syn ar Fred a hithau.

"Fies am wâc fach hid ben y lôn. Gorffod i fi aros am spel wrth fwlch parc yr Alltfawr,—we hen ebolion Ffynnon— las ar y lôn, a we ofan arna i i paso nw. Ddoith Fred ma heibo wedin, a mi ges gwmni lawr."

"Hm!" "ebe Dafydd Alun, "we ise arna i i ti ddarllen araith Chamberlain i fi. Ddoith crwt y ffeirad a'r papir gynne, a fan hyn w i wedi bod yn dy ddisgwl di."