Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

R

PARCH. EVAN REES, LLANON.

Adnabyddid ef gan lawer dan yr enw "Dechreuwr canu y Sasiwn," gan mai efe fyddai yn arwain y canu yn yr holl Gymdeithasfaoedd lle byddai. Yr oedd ei lais fel cloch arian o hyfryd a hyglyw tra parhaodd heb gael niwed; ac ar ol hyny, gan na allai seinio yr holl nodau trwy y dôn, yr oedd ei lais i'w glywed yn awr a phryd arall trwy yr holl leisiau i gyd. A byddai llawer yn gwrando yn astud, er mwyn cael clywed y llais swyngar ar yr adegau hyny. Yr oedd amryw o'i blant, ac y mae ŵyrion ac ŵyresau iddo eto yn gallu canu yn dda. Yn nechreuad ei weinidogaeth, yr oedd ei lais yn synu ac yn swyno pawb; ond cafodd wely damp pan ar un o'i deithiau, a bu yn gystuddiol iawn o'r herwydd, a neb yn meddwl nad oedd ei oes ar ben. Dioddefodd lawer oddiwrth yr effeithiau yn ystod ei holl fywyd dilynol, fel yr oedd yn gorfod cymeryd llawer o bwyll wrth draddodi ei bregeth. Dywedai y diweddar Barch. D. Hughes, yr Ynys, fel y canlyn am dano:—" Pan y tu ol iddo yn y pulpud, byddem yn clywed ei anadl yn curo rhwng pob gair, fel dic dack y clock. Dim ond unwaith y clywsom ef yn rhoi bloedd, sef wrth adrodd geiriau Job, yn benaf y fawl-wers, 'Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd.' Ni chlywsom lais mor soniarus, mwynaidd a pheraidd, yn ein holl fywyd. Ni roddodd y floedd ond unwaith."

Ganwyd ef yn 1776, yn Ffynonwen, yn ymyl ysgoldy, Brynwyre, sydd yn perthyn i Rhiwbwys a Tabor. Yr oedd ysbryd pregethu ynddo pan yn fachgenyn. Mae yno gareg fawr eto, ar yr hon y dywedir ei fod yn fynych yn pregethu. Byddai yn hoff iawn o ganu a darllen. Ond cafodd fyned yn foreu ar ci oes i ddysgu yr alwedigaeth o wneyd hetiau, yr hon swydd oedd a galw mawr am dani y pryd hwnw.; Bu yn dysgu gyda Jenkin, Ty'newm, lle ar ddarn o'r tir lle y saif capel Rhiwbwys yn awr. Priododd hefyd â Mary, y ferch, pan nad oedd ef ond 20 oed. Cyfodwyd y lle a elwir Penrosser, ar un ran o Ty'ncwm, i'r pâr ieuanc