Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Ymneillduwr. Yn ail, yr wyf yn barnu y byddaf yn fwy defnyddiol lle yr wyf yn awr. Yn drydydd, mae cymaint o anwyldeb rhyngwyf 'm brodyr, fel y byddai y rhwygiad yn annioddefol i'm teimladau." Wrth feddwl am Ymneillduaeth drwyadl a diysgog y tad, nid yw yn rhyfedd fod ei fab, Henry Richards, y diweddar Aelod Seneddol dros Ferthyr, yn Ymneillduwr mor fawr, ac wedi ysgrifenu a dadleu cymaint dros Anghydffurfiaeth.

Yr oedd yn ddirwestwr da cyn bod dirwest, a gelwid arno yn fynych ar faterion o ddisgyblaeth, i fyned i wahanol leoedd, ac ymddiriedid ynddo, oblegid y gwyddai pawb ei fod yn un mor bur Pan y bu rhai o'r cynghorwyr gydag ef ar deithiau, ni wnaethai ef pan yn yfed, ond bron gyffwrdd â'r ddiod yn y tai capeli; ond yr oedd yn cael gwaith mawr i atal yr un fyddai gydag ef rhag yfed gormod, ac weithiau yn gorfod bod yn llym. Wrth ddisgyblu Jack William, yr Ysgubor, Llangeitho, nid oedd hwnw yn gallu danod dim am yr yfed i Mr. Richards, fel y gwnelai â rhai, gan y gwyddai mor gymedrol ydoedd pan fyddai ef yn gyfaill iddo. Yr oedd rhai o hen bobl Llangeitho yn arfer dweyd mai hwn oedd yr unig un orchfygodd Mr. Richards, pan yn ceisio ei ddisgybu. "Wn i be nawn i chi yn y byd, Jack bach," meddai wrtho, "gan eich bod yn ein blino fel hyn o hyd." Tori allan i lefain y byddai yr hen gynghorwr pan yn cael ei alw i gyfrif, a gwnaeth hyny y tro hwn, a dywedodd, "Be' chi'n ddisgwyl gen i? 'dalla i ddim gwneyd iawn; ond 'rwyn siwr fod Iawn wedi ei wneyd dros hen greadur fel fi. 'Nawr dim heb dalu rhoddwyd iawn, nes clirio llyfrau'r nef yn llawn, heb ofyn dim i mi." Cododd ei lais, ac aeth i'r hwyliau mawrion wrth ddweyd y darn penill, nes enill llawer o gydymdeimlad y gynulleidfa. Ceisiodd Mr. Richards ymliw âg ef drachefn, nes yr addawodd wneyd ei oreu i beidio yfed eto i ormodedd, a thorodd allan i hwyliau drachefn, nes yr aeth llawer i waeddi gydag ef: a therfynwyd heb wneyd dim y tro hwnw ond ei argyhoeddi o'i fai. Galwyd arno unwaith i weinyddu disgyblaeth ar dafarnwr, yr hwn oedd yn ei feddwdod wedi gwerthu ei wraig i ddyn meddw arall, a gwneyd cryn son am dano y tro hwn,