Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peth y'n ni'n neyd yn Llangeitho heddy' yw dangos y ffordd i ch'i neyd a'r diodydd yma, fel na chewch ch'i niwed byth oddiwrthynt, sef trwy beidio cymeryd dim o honynt. Mae y morwyr yn dweyd am y morloi sydd yn ogofeydd y môr, mai y ffordd oreu i'w rhwystro allan, yw taro trwyn y cyntaf ddelo i'r ymil; neu os daw hwnw allan, maent mor glos at eu gilydd fel y bydd yn anmhosibl rhwystro un o honynt wed'yn. Dyna fel y mae y ddiod, y ffordd i wneyd a hi yw peidio cymeryd y glasiad cyntaf, neu os yfir hwnw, ni wyddoch yn y byd pa drefen wna hi arnoch."

Cymerer y darnau canlynol er ei ddangos fel areithiwr mewn etholiadau gwladol. Pan oedd Mathew Richards, Ysw., Abertawe, yn sefyll dros y sir yn erbyn yr ymgeisydd Toriaidd, Edward Malet Vaughan, Ysw., yn 1868, dywedai "Mae llong y Llywodraeth wedi strando ar graig, ac enw y graig yw Gladstone. beth mae Torïaid Sir Aberteifi yn myn'd i wneyd ? Ma' nhw'n myn'd i dori y graig â malet (enw canol yr ymgeisydd Torïaidd). A wyddoch chwi beth yw malet ? Gordd bren. 'Di 'nhw'n dyall dim o'r graig, Glad—stone yw hi, ac fe ga nhw ddyall mai fe fydd yn llawen y dyddiau nesaf." Yr oedd y pwyllgor wedi ymddiried gofal y rhai ofnus, a rhai methedig iddo ef i'w call i'r poll. Pan oedd wedi cyflawni ei ymrwymiad un diwrnod, ac yn dyfod yn ei ol, cyfarfu a rhai oedd wedi bod allan am helwriaeth. 'B'le buoch ch'i fechgyn?' gofynai. Buom yn hela,' oedd yr ateb. ' Wel, buoch wrth yr un gwaith a finau, hela y bues inau,' meddai. yn hela hel peth y buoch ch'i?' gofynent mewn syndod. Hel cachgwn,' meddai yntau, yr enw sydd y ffordd hono ar rai llwfr a Eto: gwangalon. "Ofn y scriw yma sydd arno ni, neu fe fydde ni gyda ch'i bob un. Yr ydych yn gwneyd i mi gofio am y chware oedd gyda ni pan yn blant. Yr oeddym wedi clywed, ond i ni roddi giâr i orwedd, a gosod gwelltyn yn groes ar ei gwddwg, na neitha hi ddim cynyg codi, gan ei bod hi yn meddwl na allai hi ddim, a gwelltyn oedd yno i gyd. Ofn gwelltyn sydd arnoch chwithau fechgyn." Eto: "Mae llawer mewn lecsiwn nad ydynt yn ystyried dim ond eu lles eu hunain. Maent yn gwneyd i mi