Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trefecca, a dywedir ei bod yn anrhydedd i'r lle. Bydd hyn i'r oesoedd dyfodol yn profi ei chwaeth dda mewn gwybodaeth fel pregethwr. Bydd hefyd yn myned ymhell i brofi ei fod yn Fethodist da. Dylid dweyd hyn am ei fod yn Annibynwr o du ei dad, a chydnabyddai ei berthynasau hyn bob amser am dano. Mae yn profi hefyd ei awydd angerddol i lesoli y weinidogaeth a'r wlad trwy gyfrwng llyfrau da. Nid yn unig bydd ef trwy hyn yn llefaru eto, ond bydd ei leferydd yn dal yn ddylanwad parhaus, a gwneyd ei goffadwriaeth yntau yn anfarwol. Aeth y brawd ieuanc hwn yn anfarwol yn nghanol marwolion, a braidd na ddywedwn y gallai yn hawdd fyned i orphwys o ran ei gorff afiach, gan iddo wneyd yr hyn a wnaeth.

Yr oedd yn bregethwr rhagorol. Yr oedd yn hynod o alluog i weled prif feddwl adnod, ac i bregethu ar hwnw, gan adael heibio bob peth arall. Yr oedd ei bregethau yn orphenedig, ac amcanai ynddynt at galonau a chydwybodau y gwrandawyr. Yr oedd ynddo ddefnyddiau llenor da. Ysgrifenodd lawer i'r newyddiaduron, a dywedai wrthym ei fod yn bwriadu ysgrifenu llawer i'r cyhoeddiadau misol wedi i'w feddwl ddyfod dipyn yn addfetach. Yr oedd yn feirniad o'r fath oreu ar lyfrau Cymraeg a Saesneg, a mynai hwynt ar eu dyfodiad allan. Yr oedd ganddo farn dda am bregethwyr a'u pregethau; ond yr oedd lledneisrwydd ei natur, a'i deimlad Cristionogol da yn ei gadw yn foneddwr trwyadl wrth wneyd nodiadau. Nid oedd yn siaradwr mewn cwmni, ond wedi dyfod i fyd y llyfrau a'r pregethu, yr oedd yn hawdd deall ei fod yntau bellach yn siaradwr.

Hynododd ei hun fel gwleidyddwr goleuedig. Bu amryw droion yn areithio ar boliticiaeth Ryddfrydig, a phan yn gwneyd, dangosai ei fod yn deall prif bynciau y dydd, a bob amser yr oedd yn dylanwadu yn dda ar y gwrandawyr. Pe buasai ei iechyd yn caniatau, nid ydym yn meddwl y buasai fawr yn ol o fod mor amlwg gyda'r achos Rhyddfrydig a'i ewythr, Morgan Evans, U.H., Oakford. Ond gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, byrhaodd ei ddyddiau. Cafwyd siomedigaeth fawr yn Nghyfarfod Misol Dehau Aberteifi,