Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nefoedd ar benau dynion, nes y mae yn annioddefol i neb fyw yno." Wrth ddechreu pregethu, gosodai ei law aswy yn fynych ar ei foch chwith, a'i law ddehau ar ei fynwes. Ond pan yn cynhesu, siglai ei benelin de, a thaflai ei freichiau mawrion, fel yr oedd pawb yn deall fod yr hwyl yn dechreu dyfod. Ar ganol yr hwyl, curai ei ddwylaw gyda nerth mawr, nes cynhyrfu yr holl le. Adroddai hen flaenoriaid Ffosyffin am un odfa galed o'i eiddo; ond wedi rhanu y bara ar y cymundeb, cyn rhanu y gwin, dywedodd, "Mae yn gywilydd gen i ein bod mor oer yn cofio am dano. O Arglwydd, tyn yr hen rwd oddiar ein calonau, i ni gael cofio yn fwy cynes am loesion Calfaria," a churodd ei ddwylaw, gan fyned ychydig ymlaen yn ei weddi, nes yr aeth yr holl gymunwyr i weddio gydag ef. Yr oedd yn ddywediad am dano y gallai yn hawdd fentro pregethu ar ol yr hyglod Robert Roberts, o Glynog, wedi cael yr hwyl oreu, y cymerai y gynulleidfa yn ei gwres, gan ei chadw felly i'r diwedd.

Yr oedd ei gallineb yn ddiderfyn; a bu felly yn llawer o gymorth i'r Methodistiaid yn eu symudiadau. Yr oedd yn erbyn pob math o falchder, mursendod, ac annhrefn, a gallai ddweyd pethau fyddai yn ateb i'r amgylchiadau bron bob amser. Pan ddaeth brawd ato oedd wedi cael ei argyhoeddi dan weinidogaeth Rowlands, a dyfod ato ef i'r seiat, a'r diafol yn danod iddo ei fod wedi gwneyd pethau na ddylai, dymunodd am iddo dynu ei enw oddiar lyfr yr eglwys. "Aros i mi gael fy mrecwast yn gyntaf, i gael gweled beth allwn wneyd." Ar ol boreufwyd, aethpwyd yn araf at y Beibl, a gweddio, gan gymeryd digon o amser at yr oll. Gweddiodd Gray mor daer dros y pechadur oedd am gael rhyddhad oddiwrth achos Crist, fel yr aeth y brawd allan yn ddistaw, ac ni soniodd byth ar ol hyny am y fath beth. Pan oedd dyn yn dweyd wrtho ei fod ef yn arfer cadw dyledswydd bob amser, hyd yn nod ar ganol cynhauaf, gan fod Gray yn ei adnabod yn dda, dywedodd wrtho, "Ydwyt, mi wranta, ond y mae mor fyred a chynffon ysgyfarnog genyt yn fynych." Pan oedd Mr. Williams, Lledrod, ac eraill yn rhoddi rheolau o flaen y cynghorwyr pa fodd i ymddwyn, dywedodd unwaith, "Pwy