Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel pregethwr. Pa fodd bynag, yr oedd o ysbryd mor anturiaethus mewn masnach, yn cymeryd rhan helaeth yn achosion y dref a'r wlad, ac felly cymaint o alw arno ymhob ystyr, a'r weinidogaeth deithiol yn myned a rhan helaeth o'i amser, fel yn y diwedd, y dyrysodd ei amgylchiadau, ac y terfynodd y pregethu gyda hyny, er dirfawr siomedigaeth i'r eglwysi a chymdeithas yn gyffredinol. Yr oedd miloedd cyfeillion Mr. Green erbyn hyn yn ofni bod darfod i fod ar ei bregethu am ei oes. Ond yr oedd mwy o asgwrn cefn yn y dyn hwn, fel nad oedd yn rhoddi fyny bob ymdrech yn ngwyneb cyfnewidiad amgylchiadau. Nid Ephraim ydoedd, yn arfog, ac yn saethu â bwa, ond yn troi ei gefn yn nydd y frwydr. Nid un felly oedd ei dad ychwaith. Collwyd ef o Aberystwyth pan yn fachgen, ac yn Liverpool y cafwyd ef. Yr oedd yn penderfynu dyfod yn grefftwr medrus, yn deilwng i gael ei alw gan foneddigion y wlad i godi porthladd, fu yn ddechreuad tref. Wedi gwneyd hyny, dechreuodd adeiladu y dref; ac wrth wneyd hyny, cododd yr achos Methodistaidd er pob gwrthwynebiadau. Mae hanes y mab yn un rhyfeddach fyth. Mae yn debyg na chawsai dewrdwr y Parch. Abel Green byth ei ddadlenu yn dda heb iddo fethu yn ei amgylchiadau fel chemist. Wedi hyny, aeth yntau fel ei dad i Liverpool, a chymerodd y gwaith a gawsai, gan wneyd y goreu o hono. Ymladdodd mor ddewr i enill ei "fara a'i ddwfr," ac i gadw ei lygaid ar ei ddyledion gyda hyny, fel yr oedd yn syndod i bawb a'i hadwaenai. Nid oedd dadl yn meddwl neb na ddioddefodd lawer o eisiau ymborth a dillad, fuasai yn ddymunol iddo eu cael, er mwyn bod i fyny â gweithwyr cyffredin. Ond mewn distawrwydd dinodedd, ac allan o olwg, enillodd nerth o ran ei amgylchiadau, a thrwy ddyfal-barhad mewn ymdrech diflino, cyrhaeddodd ei nôd uche! o dalu ei holl ddyledion, ond rhyw ychydig faddeuodd cyfeillion cyfoethog iddo wrth ei weled yn amlygu y fath egwyddor onest, a'r fath gydwybodolrwydd Cristionogol; ac nid oedd y rhai hyny ond un neu ddau, mae yn debyg. Mae yn amlwg nad oedd neb a allai ei gynorthwyo yn ngwyneb y fath amgylchiadau helbulus, a'r fath gyflog bychan, ond yr Hwn a ddywedodd,