Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XV.

Y DR. FEL CYMDEITHASWR.

Cymdeithasau yn hawlio sylw a chefnogaeth—y Dr. yn gymdeithaswr di ail—Odydd, Ifor, Alffrediad, a Choedwigwr—Llafurio yn helaethach gan Odyddiaeth ac Iforiaeth—Yn deall peirianwaith y cyfundebau dyngarol—Ei wybodaeth a'i brofiad o werth mawr i'r cymdeithasau—Yn ysgrifenu ac yn darlithio o'u plaid Yn llenwi swyddi pwysig—Y Dr. a Romeo ar giniaw—Yn is—lywydd yr Odyddion—Yn uwch—lywydd Y Cymro cyntaf ga'dd yr anrhydedd—Cyflwyno ffon iddo—Gwledd iddo yn Ngwrecsam—Anerchiad etto–Ciniaw i'w anrhydeddu yn Abertawe—Anerchiad etto—Anrhydeddau gan wahanol gyfrinfaoedd—Cyflwyno saf-addurnen ac anerchiad iddo gan Odyddion Cymru—Ei lafur gyda'r Iforiaid—Iforiaeth mewn perygl—Yn gweithio o'i phlaid—Adfer ei meddiannau—Cofrestru y rheolau—Uwch—lywydd yr Undeb Iforaidd ddwy flynedd yn olynol—Anerchiad a thysteb Iforaidd—Tysteb arall—Englynion iddo—Gwerthfawr gyda'r cymdeithasau—Penderfyniadau o gydymdeimlad, &c.


YR oedd Price yn ddyn mawr yn mha gylch bynag yr ymddangosai ynddo. Yr oedd disgwyliadau wrtho gyda phob gorchwyl yr ymgymmerai ag ef; ond yn gyffredin yr oedd yn fwy nag yr ymddangosai, a gwnelai fwy nâ llanw y dysgwyliadau wrtho. Safai mor uchel gyda y cymdeithasau cyfeillgar ag a wnelai mewn unrhyw gylch o ddefnyddioldeb y bu ynddo erioed, ac ni phetruswn ddweyd ei fod yn gweithio mor galed, ac yn cyflawnu cymmaint o ddaioni sylweddol ac amrywiol yn y cyfeiriad hwn ag a wnaeth mewn unrhyw gyssylltiad arall yn ei fywyd gwerthfawr. Yr oedd yn ystyr uchaf y gair yn ddyngarwr, a chydnabyddid ef yn gymdeithaswr di-ail.

Y mae cymdeithasau cyfeillgar ac yswiriol y wlad wedi dyfod yn allu mawr, ac y mae eu pwysigrwydd wedi dyfod y fath, fel yr hawliant sylw difrifol y gweithiwr, y masnachwr, y gwreng a'r boneddwr. Y maent wedi cael sylw mynych dynion o dalent ac athrylith yn eu hareithiau gorchestol—y Wasg mewn ysgrifau galluog, a'r Senedd