Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y modd hwn eir dros holl daith yr Israeliaid, nes y cawn ein hunain o'r diwedd yn rhoi

Ffarwel i rosydd Moab, a duwiau Sepharfaim,
A Dibon, Gad, a Nebo, ac Almon-Diblathaim.

Ond na feddylied y darllenydd mai rhywbeth fel yna yw cynwysiad y llyfr i gyd; na, y mae ynddo rai hymnau melusion. Wele enghraifft:

Cefais aml saeth wenwynig at fy mywyd lawer tro,
Nid aiff rhai o'r saethau gefais byth o'm meddwl, byth o'm co';
Er cael gwaetha'r saethau tanllyd, er cael clwyfau, eto'n fyw !
Mae fy mywyd wedi guddio gyda Iesu Grist yn Nuw.

Dirifedi yw ngelynion a'm trallodau yn y glyn,
Af er hyny trwy'r peryglon nes dod fry i Sion fryn;
Cês fy nghuro'n nhrigfa dreigiau ar fy siwrnai lawer gwaith,
Ond rwy'n canfod drwy'r cymylau beth o gyrau pen fy nhaith.

Y nesaf yw,—

"Rhosyn Saron, wedi blodeuo yn nghanol yr anialwch; lle dangosir trwy'r ysgrythyrau, mai dyben cyfryngdod a marwolaeth Crist oedd dwyn iachawdwriaeth gyflawn i holl wrthddrychau y tragywyddol gariad, a hyny mewn modd teilwng o Dduwdod; ac na bu ef ddim marw dros neb ag sydd wedi myned i uffern. Mewn byr fyfyrdodau. Esa. liii. 11. Aberystwyth: argraffwyd ac ar werth gan Samuel Williams, yn Heol-y-Bont. 1816." Argraffwyd ef hefyd yn Llanrwst, gan John Jones, dros William Jones, Trefriw. Ni welsom ond y ddau argraffiad hyn. Y mae y llyfryn hwn yn bur wahanol i'r lleill. Athrawol oeddynt hwy, ond dadleuol yw hwn; neu, fel y dywed y mawrion, ddarllenydd hynaws, yr oeddynt hwy yn didactic, ond dialectic yw hwn. Hysbyswyd ni iddo gael ei fwriadu i wrthweithio dylanwad y "system newydd " oedd ar y pryd yn ymledu yn ein talaeth. Ac y mae hyny yn cydsefyll yn dda â geiriau Shadrach ei hun yn y rhagymadrodd i'r llyfryn hwn:-"Nid ydwyf yn caru cecrus ymddadleu am bethau crefyddol, (medd efe), oblegyd y mae hyny yn tueddu i oeri