Gwirwyd y dudalen hon
PENSEIRI
Llunwyr eofn golofnau
Uwch brys a thirionwch brau
A rhyfyg y canrifau,—
Eu bri hwynt sydd i barhau.
De Leia[1], gawr huodl gŷn
A'i wyrthiau, yna Marthyn[2]
Ddiofer, a Gower[3] gynt—
Cyflawn eu dawn: amdanynt
Nid mudan, ddi-yngan yw
Un maen o feini Mynyw.
O'u dwys anhunedd a'u hamynedd maith,
O ddawn blynyddoedd, nobl yw ei naddwaith,
Her ei cholofnau, a gorwych lafnwaith
Derw y gorfu mawr hyder ei gerfwaith.
O'r oes hen erys eu hiaith—ynddi hi,
A'u gorau ynni drwy'i holl gywreinwaith.
Melys fu llunio'i mynor allorau,
Cangell a chwfaint o gywraint gorau,
A thario’n hedd ei thyrau—i ganfod
Ei chysgod bob rhod yn araf hirhau.