Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
fod yn ddiwyd yn ymlithro ar hyd ei rhewogydd yn y gaeafau, ac yn cael ei geryddu gan ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharo ei wegil yn y blymen, neu pan wlychai ei draed, oblegid torri o'r rhew o dan ei bwysau, a dyfod i'r tŷ, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl mai dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel eraill, oedd dyddiau dasu y mawn, golchi y defaid a'u cneifio, dyddiau cael y gwair a'r ŷd, ffair Llan yr haf, a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel. Gallwn feddwl y chwaraeodd lawer tua 'Chwrt y Person', wrth ddychwelyd yn y prynhawniau gydag eraill, o ysgol ddyddiol Rhos y Fedwen; a'i fod yn aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y llif ychydig dros y cerrig, ac wedi cyflawni y gamp honno, yn neidio ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hynny o beth. Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua Chalan mai yn chwilio am nythod adar, ac ym Medi, yn chwilio am y cnau yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos yn ddyfal wrando ar isalaw ddofn Rhaeadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ôl i'r tŷ yn llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae yn debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i'w wely, pan fyddai cymdogion yn dyfod i gyfarfod nosol i wau hosanau, i dŷ ei rieni. Bu yn gwrando eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y rhyfel â Ffrainc, helwriaeth, ymddangosiad ysbrydion, dewiniaeth, llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yng nghyd ag ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel."

Y mae'r Tŷ Coch ar fin y mynydd, - "y tŷ agosaf i'r mynydd." Rhwng y dŵr glan a'r mynydd-dir iach sydd yn ymyl, y mae'n lle wrth fodd Cymro athrylithgar fo'n magu plant. Ond, yr oedd yr adeg honno'n gwasgu'n drwm ar fythynwyr, yn enwedig rhai'n deulu o ddeuddeg. Dyma'r hanes fel yr adroddir ef gan Ap Fychan ei hun, -

"Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr hwn oedd wrth dalcen y Tŷ Coch, yn rhy gyfyng i'r teulu cynyddol a gyfanheddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatâd gan oruchwyliwr Syr Watcyn i ail adeiladu hen dŷ adfeiliedig yn yr ardal o'r enw Tan y Castell. Yr wyf yn cofio mai tŷ newydd tlawd iawn oedd ein tŷ newydd ni. Yr oeddem erbyn hyn yn deulu lluosog; a swllt yn y dydd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad