Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn. Mae'n resyn eich bod yn cael diwrnod mor lawog."

Arweiniwyd fi i mewn, a gwelais fod lletygarwch Cymreig o'r iawn ryw ym Mhant y Celyn. Nid oeddynt wedi fy ngweled i erioed o'r blaen, ac ni wyddent a welent fi byth wedyn. Ond mynnent gael gwneud te i mi; a phan wrthodais,William Williams Pant y Celyn daethant a glasiad o lefrith oedd yn gwneud i mi sylweddoli dymunoldeb "gwlad yn llifeirio o laeth a mêl." Arweiniwyd fi i ystafell Williams, ystafell isel dan drawstiau mawr. Yr oedd cadair Williams yno, yn yr hon yr ysgrifennodd ei hanes ysbrydol mewn cynifer o ddulliau. Cynhigiwyd i mi eistedd yn y gader, ond yr oedd rhyw hanner ofn yn rhwystro i mi wneud hynny. Yr oedd IHS, - Iesus hominum Salvator, Iesu Gwaredwr dynion, - ar galchiad y nenfwd yn yr ystafell fechan unwaith. Trwy'r ffenestr yr oedd llecyn gwyrdd bychan i'w weled, a'r tŷ to brwyn dros ei ben.

Ar ben y grisiau, gwelais gloc Williams, gyda wyneb o bres gloyw, a thic trwm marw. Yr oedd yr hen gloc a'r hen gader yn dwyn i'm meddwl lafur ei oes ryfedd. Hwyrach fod llawer o'r Diwygwyr yn bregethwyr mwy nerthol na Williams Pant y Celyn. Ond ni weithiodd yr un o honynt yn galetach, ac ni fydd dylanwad yr un o honynt mor barhaol â'i ddylanwad ef. Efe, trwy ei emynau, sydd wedi gwneud y Diwygiad yn