Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

codi'n bigfain i'r niwl tua'r de. Ni fûm mewn lle hyfrytach erioed nag ar ben y banciau hyn. Aberoedd grisialaidd, ffrwythau aeddfed, arogl gwair sych cynhauafus, awel y mynydd ac awel y môr,- dyma le i'r gwan gryfhau. Ar ein cyfer dacw'r Hengwrt Ucha; a thraw ar fin y mynydd, uwch ei ben, dacw'r Blaenau, cartref Rhys Jones, cynllunydd "Gorchestion Beirdd Cymru." Ymhellach fyth y mae'r Rhobell gawraidd yn edrych i lawr ar y llethrau a'r dyffryn.

Cefais ymgom ddifyr a llawer amaethwr y diwrnod hwnnw. Dywedent fel y byddai pawb ar ei dir ei hun unwaith,- Pant y Panel, Coed Mwsoglog, Coed y Rhos Lwyd, Maes y Cambren, Brith Fryniau, a llu eraill,- oll erbyn heddyw wedi eu gwerthu i dirfeddiannwr mawr. Sylwais gymaint yn dlysach oedd yr hen dai na'r tai sydd newydd eu codi; ond nid oedd amser i holi beth oedd y rheswm.

Evan Jones (1820-52) Ieuan Gwynedd, Bryn Tynoriaid, Y Brithdir Heibio llawer cartref dedwydd, a phawb ond y plant a'r cŵn yn prysur gario gwair, cyrhaeddais Esgair Gawr. Yr oedd y cerdded hyd ael y bryniau a thrwy'r coed wedi codi mawr eisiau bwyd arnaf. Cefais lawer gwahoddiad gan y ffermwyr caredig i droi i mewn "i gael tamaid," ond yr oeddwn yn cadw fy hun at y te oedd yn Esgair Gawr. O'r cartref croesawus hwnnw cefais ffordd hyfryd, dros gaeau a than goed, i Fryn Tynoriad. Gwelais y llyn lle y bu ond y