Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yna safodd yntau'r estron;
Meddai, "Cymro ydwyf i
Wedi gadael gwlad ei dadau;
Dywed beth a fynnit ti."
Medd yr henwr bychan yntau,
Mynnwn i yr hyn a ddaw;
Ple y cefaist ti y pastwn
Onnen yna sy'n dy law?"
Eiddof ydyw," medd yr estron,
"Ni waeth ble y cefais hi;"
Gwrando," medd yr henwr yntau,
"Gwell it pe'm atebit ti."
"Torrais hi ar lethr Elidir,
Lle mae llwyni cyll ac ynn,'
Medd yr estron, yntau'n henwr,
Gwrando'r oedd a syllu'n syn.
Meddai: "Tyfodd hon ar foncyff
Sydd o'r golwg yn y llawr,
Ac o dan y boncyff hwnnw
Y mae genau ogof fawr.
'Cwsg y brenin a'i farchogion
Yn yr ogof uthr ei maint,
Oni ddêl a'u geilw i ymladd
Eto dros eu bro a'u braint.