Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dolgellau, anrhegwyd ni ag amryw o bregethau Mr. Humphreys, pa rai a ysgrifenwyd ganddo wrth eu gwrando; a dian genyf y cytuna y darllenydd â mi i gyflwyno y diolchgarwch gwresocaf i Mr. Jones am danynt; byddant yn chwanegiad gwerthfawr at y Cofiant.

Ar anogaeth amryw o frodyr a hen gyfeillion Mr. Humphreys yr wyf hefyd wedi casglu ei holl ysgrifeniadau, pa rai a ymddangosasant o dro i dro trwy y wasg, a chredaf y teimla y darllenydd wrth eu darllen yn debyg i minau, sef gresynu na buasid wedi llwyddo i gael ganddo ysgrifenu mwy o gynyrchion ei brofiad aeddfed ar wersi ymarferol bywyd.

Nid oes genyf bellach ond canu yn iach i'r doethwr o'r Dyffryn, ar ol bod yn eistedd uwch ei ben am dros flwyddyn a haner; ac nis gallaf lai na'i hystyried yn fraint cael rhoddi cyfleusdra i'r darllenydd trwy y gyfrol fechan hon i wrando ar un sydd wedi marw yn llefaru eto. Fy nymuniad diweddaf ydyw ar i gynwys y Llyfr Coffadwriaeth hwn fod er adeiladaeth, a chynghor, a chysur i bawb a'i darlleno.

GRIFFITH WILLIAMS.

TAL-Y-SARNAU,

Mawrth 15fed, 1878.