Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyffredin. Dull rhy uchel o fyw, a cheisio dilyn y rhai sydd uwchlaw i ni mewn bwyta, yfed, ac ymwisgo, a gynyrcha y naill haner o dlodi ac eisieu ein gwlad. Ar a wyddom nid oes cymaint a botwm corn, nodwydd ddur, na phin bach yn cael eu gwneyd yn Nghymru. Daw y cwbl o Loegr. Yn yr amser gynt pan oedd Elizabeth yn teyrnasu, yr oedd pawb yn nyddu ac yn gardio iddynt eu hunain, a phawb yn byw ar gynyrch ei dyddyn—talent i'r teiliwr, i'r gwehydd, ac i'r panwr, a'r rhai hyny yn y gymydogaeth; a thyna fyddai yr holl draul. Nid oedd y pryd hyny na thybaco, na thê, na siwgr, yn cael eu defnyddio, yn gyffredin o leiaf. Yr ydym yn cofio hen bobl yn ein cymydogaeth, y rhai a fedrent ddywedyd pwy oedd y rhai cyntaf a gafodd gynaliaeth o'r plwyf. Bu farw hen ŵr yn Meirion, tuag ugain mlynedd yn ol, yn agos i gant oed: pan oedd yn ddyn lled ieuanc, cymerodd dyddyn; a'r tro cyntaf y talodd dreth y tlodion, chwe' cheiniog y bunt oedd yn y flwyddyn; ond cyn ei farw bu yn talu yn yr un tyddyn, a'r trethiad yr un faint, bedwar-swllt-ar-bymtheg; hyny yw, yr oedd y dreth yn niwedd ei oes gymaint a'i ardreth, o fewn swllt, yn nechreu ei oes. Ac yn gymaint a bod pawb, o'r mwyaf hyd y lleiaf, yn cyrchu bron bob peth o'r shop, a'r siopwyr yn cael y cyfan o bell, aeth yr arian mor anhawdd eu cael a rhinwedd da ar grachfoneddig. Nid ydym am daraw ar fasnach, ond dylai pawb gymhwyso y gwadn at y troed. Pe byddai afrad y werin yn Nghymru wedi ei gasglu yn nghyd, byddai yn swm dychrynllyd.

6. Rhyfyg ac anturiaeth afresymol sydd lawer gwaith wedi achosi tlodi;—awydd myned yn gyfoethog mewn un-dydd-un-nos; fel y ci yn y ddameg, yn myned dros y bontbren, âg asgwrn yn ei geg, ac wrth weled cysgod yr asgwrn yn y dwfr, o wir awydd i'r hyn nid oedd ganddo, fe gollodd yr hyn oedd ganddo, wrth ollwng y sylwedd er dal y cysgod. Anaml y mae cŵn can ffoled a hyn, ond mynych yr abertha dyn i'w ddychymyg.

7. Diogi a difaterwch a achosant dlodi pa le bynag y byddont. Dywed Solomon, "Y diog a ddeisyf ac ni chaiff ddim, am fod ei ddwylaw yn gwrthod gweithio: felly y mae tlodi yn dyfod arno fel ymdeithydd, a'i angen fel gŵr arfog," sef yn annisgwyliadwy ac anwrthwynebol. Gwelir rhai fel pe baent wedi cael y parlys a gwywdra