Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyffryn ar y Sabbothau yn fynych, byddai hefyd yn pregethu yn nhai ei gymydogion bron bob wythnos ar ryw adegau ar y flwyddyn; ac y mae adgofion bywiog am amryw o'r pregethau hyny yn aros hyd heddyw. Dywedai cyfaill iddo unwaith, "Yr ydych chwi yn pregethu llawer mwy yn y Dyffryn acw na Mr. Morgan.' "Y mae hyn yn dwyn i'm cof y ffughanes am y llew a'r llwynog," ebe yntau. Dywedai y llwynog wrth y llew, 'yr wyt ti yn llawer cryfach na mi, ond byddaf fi yn magu tri neu bedwar o gywion am un i ti.' Gwir,' ebai y llew, ond cofia di mai llwynogod fydd genyt ti, ond mi fydd genyf fi lew pan fagwyf ef. Felly," meddai, "ni bydd genyf fi ond llwynogod; ond pan y daw Morgan allan, fe fydd ganddo ef lew." "Ond efallai," ebe fy hysbysydd, "fod llwynogod Humphreys yn gwneyd cymaint o les a llew Morgan, o leiaf yr oeddynt yn fwy hawdd eu dal, ac y mae yn sicr mai yr hyn a ddelir o'r pregethau a wna les, a dim mwy."

Y mae un peth arall y dylem ei goffâu am dano, sef, ei fod wedi pregethu am flynyddoedd lawer yn ei gartref, a'r ardaloedd agosaf atto, heb gymeryd dim cydnabyddiaeth am ei lafur. Gellir gweled ei enw ar lyfr eglwys y Dyffryn, ac eglwysi y dosparth, ugeiniau o weithiau, heb yr un geiniog ar ei gyfer yn yr un o honynt. Yr oedd ganddo ddau amcan wrth beidio a chymeryd ei dalu fel ei frodyr; sef, peidio a phwyso ar yr eglwysi, ac er mwyn iddynt allu gwneyd yn well o'r gweinidogion oedd heb fod mor dda eu hamgylchiadau ag ef. Ond wedi i frawd oedd yn talu mwy o sylw i gynhaliaeth y weinidogaeth nag ef ddyfod i fyw yn agos ato, a deall pa fodd yr oedd yn arfer gwneyd, dangoswyd iddo mai dylanwad uniongyrchol ei waith ydoedd, nid gwella amgylchiadau ei frodyr, ond tueddu i wneyd yr eglwysi yn fwy diffrwyth, a gosod rhwystrau ar ffordd dyrchafiad y weinidogaeth. Pan y deallodd Mr. Humphreys hyny, dywedodd wrth swyddogion yr eglwysi ei fod wedi arfer eu gwasanaethu yn rhad; ond o hyny allan y cymerai efe ganddynt fel y byddent yn arfer rhoddi i'w frodyr, ac y gallai eu cyfranu at achos crefyddol fel y gwelai efe yn dda: a chlywsom gan un oedd yn gwybod ei hanes yn bur fanwl y byddai yn degymu cymaint oll ag a dderbyniai am ei lafur gweinidogaethol.

Ar ol marw y Parch. Richard Jones, o'r Wern, ymlithrodd cryn lawer o bwysau yr achos yn Ngorllewin Meir-