Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Clywsom iddo, yn Llanuwchllyn, wedi bod yn pregethu yno un Sabboth, ac iddo sylwi fod tyllau yn nhô yr hen gapel, fyned bore Llun i chwilio am fenthyg dillad gweithio y diweddar Evan Foulk; ac wedi d'od o hyd iddynt, aeth i ben y capel a thrwsiodd ei dô cyn myned ymaith. Byddai yn cadw dau beth mewn golwg wrth eu gwneyd, sef planio capelau yn gysurus i addoli ynddynt, a gochelyd costau afreidiol, rhag tynu beichiau gormodol ar yr eglwysi. Cofus genym ei weled unwaith wedi ei wahodd i Danygrisiau, i edrych a oedd yr hen gapel yn ddigon uchel i gael oriel (gallery) arno. Cymerodd ddau o ddynion gydag ef i mewn. Gosododd un o'r ddau yn yr eisteddle uchaf yn. nghefn y capel, a'r llall ar ben maingc ar gyfer y man y buasai wyneb yr oriel yn cyrhaedd; a ffon yn ei law, yr hon a ddaliai i fyny ar ei gorwedd, yna aeth yntau ei hunan i'r pulpud. Yr oedd y dyn oedd ar ben y faingc i godi y ffon hyd nes y gwelai Mr. Humphreys a'r un oedd yn nghefn y capel eu gilydd o dani, a hyny oedd i benderfynu uchder wyneb yr oriel oddiwrth y llawr. Os nad oedd y ffordd hon yn ateb i ddarganfyddiadau diweddaraf celfyddyd, nid 'oedd modd cael ffordd mwy diogel. Os byddai wynebpryd siriol Mr. Humphreys yn weledig i'r rhai a eisteddai felly o dan yr oriel, nid oedd perygl am neb arall, oblegid efe oedd y talaf yn mysg y brodyr ar ol dyddiau Lewis Morris.

Yr oedd Mr. Humphreys yn allu mawr yn Nghyfarfod Misol ei Sir; a byddai yn taflu ei holl ddylanwad o blaid pob diwygiad a ddygid i mewn iddo. Ni chafodd yr Achos Dirwestol ffyddlonach dadleuwr nag ef, fel y gwelir oddiwrth bennod arall; a bu yn gyfaill ffyddlon i'r Athrofa; a phan y dechreuodd y diweddar Mr. Morgan athrawiaethu ar bwngc y Fugeiliaeth, yn y rhan hon o'r wlad, daeth yntau allan yn gefnogwr gwresog iddo. Y mae yn wir y byddai rhai brodyr oedd yn erbyn y fugeiliaeth yn dwyn Mr. Humphreys yn mlaen fel un oedd wedi rhoddi blynyddoedd o lafur yn rhad, a gofynent, Pa reswm oedd mewn meddwl i neb gael eu talu am gadw seiat ? Ond ni bu efe ddim yn fwy ymdrechgar i'w gwasanaethu yn rhad nag y bu wedi hyny i geisio eu hargyhoeddi o'u rhwymedigaeth i "gynal gair y bywyd.' A phan y byddai ein hanwyl frawd Mr. Morgan yn fawr ei sel yn llabyddio y gau-resymau a ddygid yn erbyn y Fugeiliaeth, byddai Mr.