Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/375

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn hyd ddiwedd y byd, yn mhlith y rhai hefyd y bydd Annghrist ei hunan, y mae yn sicr am y dyrfa aneirif hono o annuwiolion, y rhai a fuant o ddechreuad y byd hyd ddyfodiad Crist yn y cnawd, eu bod wedi marw, ac wedi eu dedfrydu i boenau tragywyddol oblegyd eu hannuwioldeb eu hunain; ac nid ydym ni yn meddwl fod y rhai sydd yn dywedyd y pethau hyn eu hunain yn credu, y dylid credu fod ein Harglwydd wedi dioddef dros y rhai a fuant farw yn eu hannuwioldeb eu hunain, ac sydd yn awr wedi eu condemnio i farnedigaeth dragywyddol. Canys, os credir iddo dioddef drostynt hwy, paham na chredir hefyd iddo ddioddef yn gyffelyb dros y diafol a'i angelion? Megis, gan hyny, na ddylid mewn un modd ddywedyd fod ein Harglwydd Iesu Grist wedi dioddef dros yr angelion drwg a damnedig hyny, felly, fe ddylai fod yn hollol bell oddiwrthym gredu ei fod wedi dioddef dros y dynion annuwiol a damnedig hyny. Gyda golwg ar y rhai sydd hyd yn hyn yn cael eu cau i fynu mewn annghrediniaeth ac annuwioldeb, y mae yn eglur, am bwy bynnag o honynt a ddychwelir trwy ras Duw i'r ffydd, ac a ailenir yn Nghrist, y rhaid cyfaddef fod yr un peth wedi ei wneuthur, hyd yn nod drostynt hwy ag sydd yn ddiddadl wedi ei wneuthur dros yr holl ffyddloniaid. Ond gyda golwg ar y lleill, y rhai, gan barhau yn eu hannghrediniaeth ac yn en hannuwioldeb, a gyfrgollir, os yw dynion da sydd yn dysgu felly yn alluog i brofi i ni trwy awdurdod yr Ysgrythyrau Sanctaidd, a thrwy y tystiolaethau cadarnaf a mwyaf eglur, fod ein Harglwydd wedi dioddef hefyd dros y cyfryw, y mae yn hollol deilwng i ninau hefyd ei gredu. Ond, os na allant brofi felly, hwy a ddylent roddi heibio dadleu dros yr hyn nad ydynt yn ei ddarllen. Dylent gywilyddio penderfynu ynnghylch pethau nad ydynt yn eu gwybod. Dylent ofni penderfynu yr hyn nad ydynt wedi cael allan fod yr un cynghor o'r tadau sanctaidd, nac un ddeddf yn nghylch athrawiaethau eglwysig, hyd yn hyn wedi ei benderfynu. Ac, er y gallent gael allan rywbeth wedi ei ysgrifenu neu ei ddywedyd gan ddoctoriaid sanctaidd ac anrhydeddus yr eglwys, ag a ddichon ymddangos yn rhoddi achlysur i gymmeryd ystyr o'r fath yma oddiwrtho, eto, gan gadw i fynu yr holl barchedigaeth dyledus iddynt hwy, hwy a ddylent yn hytrach ymattal rhag cael eu dylanwadu yn ormodol ganddynt, ac ymddarostwng yn ostyngedig i'r awdurdod ddwyfol; a chyda golwg ar fater mor dywyll, ac mor annghyffredin, eu rhoddi eu hunain o'r neilldu yn ostyngedig i'r mawrhydi dwyfol " (Usher, Vol. IV. Pages wy ei ysbryd ymrysongar." Y mae yn ymddangos i'r dadleuon a godasid gan Gottschalck ddyfod i derfyniad gyda'r ysbryd tangnefeddus hwn. Nid ydym yn cael dim dadl ar y pwnc hwn am oesoedd lawer ar ol hyn. Syrthiodd Duwinyddiaeth i ddwylaw yr hen Ysgolwyr Pabaidd; ac, er fod braidd bob cwestiwn wedi cael ei ddadleu ganddynt, nid ymddengys fod dim gwahaniaeth o bwys rhyngddynt ar Brynedigaeth. Yr oeddent oll yn cytuno yn y geiriad, fod Crist wedi marw o ran digonolrwydd dros bawb, ond yn effeithiol yn unig i'r etholedigion.


eglur, fod ein Harglwydd wedi dioddef hefyd dros y cyfryw, y mae yn hollol deilwng i ninau hefyd ei gredu . Ond , os na allant brofi felly, hwy a ddylent roddi heibio dadleu dros yr hyn nad ydynt yn ei ddar- llen. Dylent gywilyddio penderfynu ynnghylch pethau nad ydynt yn eu gwybod . Dylent ofni penderfynu yr hyn nad ydynt wedi cael allan fod yr un cynghor o'r tadau sanctaidd , nac un ddeddf yn nghylch athrawiaethau eglwysig, hyd yn hyn wedi ei benderfynu . Ac, er y gallont gael allan rywbeth wedi ei ysgrifenu neu ei ddywedyd gan ddoctoriaid sanctaidd ac anrhydeddus yr eglwys , ag a ddichon ym- ddangos yn rhoddi achlysur i gymmeryd ystyr o'r fath yma oddiwrtho , eto, gan gadw i fynu yr holl barchedigaeth dyledus iddynt hwy, hwy a ddylent yn hytrach ymattal rhag cael eu dylanwadu yn ormodol gan- ddynt, ac ymddarostwng yn ostyngedig i'r awdurdod ddwyfol ; a chyda golwg ar fater mor dywyll , ac mor annghyffredin, eu rhoddi eu hunain o'r neilldu yn ostyngedig i'r mawrhydi dwyfol" (Usher, Vol. IV . pages 1