Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig William Evans, Tonyrefail.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derfyniad uchod, ac yn ddiameu a weithiwyd allan gyda graddau mwy neu lai o lwyddiant. Nid oedd pobl dda y Cefn i ddysgwyl cynorthwy ond o Ferthyr a Dowlais; eto yr oeddynt hwythau i gyfranu swllt y flwyddyn ar gyfer pob aelod eglwysig i symud ymaith ddyled y Cyfarfod Misol, ac felly pob eglwys arall yn yr un amgylchiad. Mae yr egwyddor o gydweithrediad yn amlwg yn y cynllun; ac fe ddangosir fod yr eglwysi cryfach wedi cael eu dysgu gynt gan y tadau i gynorthwyo y rhai gweiniaid.

Yn y Cyfarfod Misol dilynol yn Nhrehill, ar y 18fed a'r 19eg o Chwefror, cafwyd ymdriniaeth ar fater pwysig arall, a "phenderfynwyd sefydlu cylch-daith Sabbothol y gweinidogion trwy y sir, fel y byddai yr ordinhadau i gael eu gweinyddu, os byddai yn bosibl, unwaith bob mis yn mhob capel." Dyma ddechreuad y drafodaeth a arweiniodd yn mhen blynyddoedd ar ol hyny i ffurfiad y cynllun gweinidogaethol —y "plan," fel y gelwid ef—yn Morganwg, ac a fu o wasanaeth mawr, yn enwedig i'r eglwysi lleiaf. Yr oedd yr eglwysi wedi amlhau yn ysbaid y deng mlynedd a basiodd, ond yr oedd nifer y gweinidogion yn aros yn agos yr un, ac yr oedd y nifer hwnw yn fychan. Yr oedd gweinidogaeth Mr. Rees Jones a Mr. William Griffiths yn gyfyngedig yn mron yn llwyr i Browyr. Bu Mr. David Howell am dair blynedd ar ol ei neillduad yn sir Faesyfed. Ac yn awr yn nechre 1829, yroll o'r pregethwyr mewn cyflawn urddau i wasanaethu holl nifer eglwysi cynyddol Morganwg, gyda'r eithriad o eglwysi Browyr, oeddynt Mr. Howel Howells, Mr. Hopkin Bevan, Mr. Richard James, Mr. David Williams, Mr. David Howell, a Mr. William Evans. Eithr yn y Cyfarfod Misol yr ydym yn awr yn cyfeirio ato fe benderfynwyd cyflwyno enw Mr. Benjamin Evans i'r Gymdeithasfa i gael ei neillduo; yr hyn a gymerodd le yn y mis Awst canlynol. Ar ol hyny nid oedd nifer y gweinidogion yn y sir ond saith, neu yn hytrach naw, a chymeryd i mewn y ddau frawd parchus yn Mrowyr. Yn yr un Cyfarfod Misol hefyd cyd-olygwyd "fod