Tudalen:Cwm Eithin.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd raid cario'r ŷd yn ei faw i ysgubor a'i roi mewn sachau yn rhywle y ceid lle; ac ar ôl iddi fod yn dyrnu am ddiwrnod yr oedd gwaith rhidyllio a nithio am ddyddiau.

CRASU A MALU

Dynion pwysig yng Nghwm Eithin oedd y craswr a'r melinydd. Soniais wrth un gŵr ieuanc yn ddiweddar am y craswr. Tybiodd ef mai y baker a feddyliwn, sef dyn yn crasu bara. Yr hynaf o'r frawdoliaeth a gofiaf yw Morus y Craswr, cefnder i "Jac Glan y Gors." Yr oedd y craswr hwn yn bod pan nad oedd ond merched yn crasu bara. Byddid yn crasu ceirch cyn ei falu. Gellir malu ceirch drwyddo yn fwyd moch heb ei grasu, ond ni ellir ei silio heb ei grasu. Yr oedd dau fath o odyn i grasu yn fy nghof i, odyn wellt ac odyn deils. Y gyntaf oedd yr hynaf. Yng ngwaelod yr odyn yr oedd lle tân tebyg i bopty mawr hen ffasiwn. Yn yr hen amser twymnid ef gyda mawn, ond erbyn fy amser i yr oedd llosglo (charcoal) wedi dyfod yn bur gyffredin. Wrth ben hwnnw drachefn yr oedd math o lofft wedi ei theilio. Taenid yr odynaid ŷd o ryw bymtheg neu ugain hobaid ar y teils cynnes, a throid ef unwaith neu ddwy gyda rhaw bren. Yn yr odyn wellt nid oedd ond trawstiau yn groes ymgroes yn gwneuthur llofft, a byddai raid myned â thair neu bedair batingen o wellt i'w roddi drostynt. Ar y gwellt y tywelltid y ceirch yn haen denau, a gwaith gofalus iawn oedd sicrhau eich traed ar y trawstiau wrth dywallt y ceirch o'r Bachau, a'i droi gyda'r rhaw bren a'i lenwi yn ôl i'r sachau, neu byddai eich coesau trwy'r llofft a chollid y ceirch. Ar ôl ei lenwi i'r sachau â'r rhaw bren byddai raid ysgwyd y gwellt i gael y gweddill. Mae dau reswm dros grasu'r ceirch; yn gyntaf, heb ei grasu nid yw yn ddigon sych i wneud bara; ac yn ail, ni ellir-neu o'r hyn lleiaf ni ellid gyda pheiriannau'r hen felinau-wahanu'r rhynion oddi wrth yr eisin.

Diwrnod pur fawr oedd diwrnod silio. Byddai raid i ddau neu dri fyned i'r felin y diwrnod hwnnw, a rhaid oedd i un ohonynt fod yn ddigon cryf a heini i gario'r pynnau o'r odyn i'r felin. Gwnâi'r gweddill y tro yn wan hen neu wan ieuanc. I silio rhaid oedd codi ychydig ar y garreg ucha yn y felin, fel y byddai bron ddigon o le i'r geirchen basio rhwng y ddwy garreg heb ei malu-yn unig torri'r plisgyn heb falu'r gronyn; a chan fod y geirchen yn galed ar ôl y crasu deuai'r plisgyn i ffwrdd yn gyffredin yn ddau ddarn; a hawdd oedd gwahanu'r rhynion oddi