Tudalen:Cwm Eithin.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwlân, yr oedd ganddi un arall i gario newyddion, ac yr oedd y rhai hynny wedi eu gosod yn weddol drefnus yn y sach; gallai gael gafael ar y rhai a fyddai fwyaf tebyg o blesio, gan ei bod trwy hir ymarferiad wedi dyfod i adnabod ei chwsmeriaid yn bur dda. Peth arall a gyfrifai am ei theithiau pell oedd ei bod yn hanu o hen deulu, a hwnnw'n deulu lluosog iawn, wedi canghennu a gwasgaru i bob rhan o Gwm Eithin. Yr oedd ganddi berthynasau ym mhob man lle'r elai, neu gwyddai am rywun yn perthyn i berthynas iddi hi, a rhoddai hynny ryw fath o hawl iddi arnynt. Cymerai nifer o ddyddiau i Fari wneud ei thaith.

Bûm yn aros am ddwy flynedd gyda hen ewythr. Yr oedd ef yn nai i John Ellis y Cerddor, ac yn gefnder i Mari Wiliam. Yr oedd yn un o'r lleoedd olaf y galwai Mari ar y daith hon, ac arhosai yno noswaith bob amser. Yr oedd yn werth ei gweled yn dyfod, un pac o wlân wedi ei rwymo ar ei chefn, rywbeth yn debyg i gas gobennydd wedi ei stwffio yn dynn o wlân; pac arall o dan bob cesail, tebyg i gas clustog. Byddai fy hen ewythr wrth ei fodd yn ei gweled yn dyfod, a gofalem ninnau'r hogiau aros yn y tŷ y noson honno ar ôl swper, oherwydd un o wleddoedd gorau'r flwyddyn oedd clywed f'ewythr yn holi Mariam hanes a helynt y teuluoedd y byddai hi wedi galw gyda hwy. Chwerddais lawer yn fy llewys pan glywn fy ewythr yn gofyn i Fari ail adrodd ambell hanesyn. Gwaeddai "Eh?" pryd y gwyddwn yn iawn ei fod wedi ei glywed y tro cyntaf. Ond yr oedd rhywbeth yn yr hanesyn yn goglais ei glustiau. Amheuwn weithiau a oedd f'ewythr yn peidio â hoffi clywed newydd drwg am rai o'r cymdogion, oherwydd byddwn yn sylwi mai dyna'r straeon y gofynnai i Mari eu hail adrodd. Ond chware teg iddo, nid âi'r stori ddim pellach trwyddo ef, ni cheid mohono i ddywedyd straeon gair bach am neb. Cadwai'r cwbl iddo'i hun. Ond am modryb, yr oedd ei hwyneb fel yr heulwen. Gallai hi fwynhau. hanesion am lwyddiant pawb, hyd yn oed cymydog y teimlai'n bur sicr ynddi ei hun mai un o'i defaid hi oedd mam yr oen llywaeth a fegid ganddo.

Dyna fraslun o hanes hen ddefod Gymreig a fu o wasanaeth mawr i gannoedd o deuluoedd tlodion yn yr hen amser gynt, ond sydd bellach wedi diflannu'n llwyr o'r wlad, ac nid wyf yn cofio i mi weled dim o'r hanes wedi ei groniclo. Credaf na thybiai neb ei fod yn ddim diraddiad myned o gwmpas y wlad i wlana, oherwydd amser enbyd iawn ydoedd hi. Credwn erbyn hyn y dylai pawb sy'n fodlon i weithio, ac i wneud ei ran, gael