yr afon a'r ddyfr-ffos, a thŵr o ymddangosiad hynod yn perthyn iddi; ac y mae wedi ei chyssegru i goffadwriaeth Illtyd Sant. Yr oedd yn y plwyf hwn gapel o'r enw yr Ynys Fach, dalm o amser yn ol; ond fe ymddengys iddo gael ei gyssegru erioed, ac fe'i gollyngwyd i adfeilion er's llawer o flyneddoedd. Yn y flwyddyn 1692, cymmun-roddodd un Morgan Jenkins, ychydig o dir at wasanaeth tlodion y plwyf hwn.
LANTWIT VAIRDRE. Gwel LLANILLTYD Y FAERDREF.
LAUGHARNE, CAERFYRDDIN. GWEL LACHARN.
LAUGHARNE, Rowland, swyddog milwraidd enwog, yn adeg y rhyfel cartrefol, oedd frodor o Swydd Benfro. Efe a aeth i wasanaeth Iarll Essex, fel ei ysginog (page), pan yn ieuanc, a thrwy nawddogaeth y pendefig hwnw, cafodd ddyrchafiad cyflym yn myddin y Senedd. Wedi cyrhaedd y radd o filwriad, ac Is-gadfridog, efe a orchfygodd y byddinoedd breninol amryw weithiau, yn Sir Benfro, a'r Siroedd cymmydogol; ac fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwerthfawr, penderfynwyd gan y Senedd, yn y flwyddyn 1645, bod ettifeddiaeth Slebech, yn Swydd Benfro, i gael ei gwneyd drosodd iddo ef, ac i'w ettifeddion. Yn gynar yn y flwyddyn 1648, darfu i'r ls-gadfridog Laugharne ymuno a'r breninolwyr, yn yr ymgais diweddaf a wnaed yn ystod y rhyfel cartrefol, i amddiffyn hawliou y penteyrn; a'r brenin a ymddiriedodd lywyddiaeth ei fyddinoedd iddo, ac ar yr 8fed o Fai, a chanddo wyth mil o wŷr dano, efe a ymladdodd frwydr â byddin y Senedd dan y Milwriad Horton, yn agos i St. Ffagan, yn Swydd Forganwg; ac wedi ymdrechfa galed, fe'i llwyr orchfygwyd, a chafodd rhan fawr o'i fyddin eu lladd, neu eu carcharu. Laughame ei hunan a ddiangodd i gastell Penfro, lle y gwarchaewyd arno yn ebrwydd, gan Cromwell yn bersonol. Efe a gadwodd feddiant o'r castell hyd yr 11eg o Orphenaf, ac yn y cyfamser gwnaeth y gwarchlu lawer ymdrech ofnadwy i dori trwy y gwarchaewyr; ac yn y cyfryw ruthriadau, ni chymerid carcharorion, ond pawb yn lladd eu gilydd yn ddiarbed; ond o'r diwedd, daeth mor gyfyng ar y gwarchaëedig am ymborth i'w meirch, fel y ceisient eu cadw yn fyw â gwellt tô eu tai; ac o ganlyniad, ba raid i Laugharne, a'r milwriaid Powell, a Poyer, eu rhoddi eu hunain i fynu yn ddi ammodol; a chaniattawyd i'r swyddogion eraill ymddeol dros y moroedd. Y tri charcharor crybwylledig uchod, a garcharwyd yn nghastell Windsor am oddeutu blwyddyn, ac ar y 10fed o Ebrill, 1640, fe'u dygwyd i brawf o flaen llys milwraidd yn Llundain, a dyfarnwyd y tri i gael eu dienyddio. Pa fodd bynag, caniattawyd iddynt dynu cwtws, a'r cwtws a ddisgynodd ar Poyer, yr hwn a saethwyd yn Covent Garden, ar y pumed ar hugain o'r mis hwnw; ond yr oedd llawer yn meddwl fod y cytyeau wedi eu trefnu felly yn fwriadol, oddiar ystyriaeth o'r gwasnaeth pwysig a wnelsai Laugharne a Powel o'r blaen i'r Senedd. Ond er hyny difuddiwyd ef o ettifeddiaeth Slebech, trwy benderfyniad y Senedd, dyddiedig Hydref l8, 1649.
LAVERNOCK—Llywernog, neu Llan Wernog; sydd blwyf bychan yn nghantref Dinas Powys, yn Undeb, a Dosparth Llys Sirol Caerdydd, Deoniaeth, Archddeoniaeth, ac esgobaeth Llandaf, yn swydd Forganwg, DEHEUDIR CYMRU: a'i safle ar lan Mor Hafren, saith milldir i'r De Dde-orllewin o Gaerdydd. Mesura y plwyf 1014 erw o arwyneb; 612 o'r cyfryw sydd dir amaethyddol. Ardalydd Bute yw arglwydd y faenor, a Barwnes Windsor ac yntau, yw perchenogion yr holl blwyf. Mae yr Eglwys wedi ei chyssegru i St. Lawrenee, a hi yw yr unig le addoliad yn y plwyf. Rectoriaeth yw y fywioliaeth yn unol a Phenarth; a'r ddwy yn werth 200p. y flwyddyn, yn nawdd a rhodd Barwnes Windsor. Mae y Llywodraeth wedi prynu darn o'r plwyf hwn i'r dyben o adeiladu amddiffynfa arno. Poblogaeth y plwyf yn 1871 oedd 109.
LAWRENCE (St.), plwyf, yn nghymmydogaeth
Hwlffordd, Swydd Benfro; ar lan yr afon Cleddau,
7 milldir i'r Gogledd Orllewin o orsaf Clarberston Road, ac 8 milldir i'r Gogledd wrth Orllewin o
Hwlffordd. Llythyrfa, Wolf's Castle, dan Hwlffordd.
Erwau, 1751. Gwerth ardrethol, 904p. Poblogaeth, 205. Tai annedd, 41. Y fywioliaeth eglwysig
sydd berigloriaeth, yn esgobaeth Tyddewi. Gwerth
80p. Noddwr, yr arglwydd Ganghellydd. Y mae
y plwyf hwn yn gorwedd yn y parth gogledd orllewinol o'r Sir, a'i arwyneb yn fryniog gan mwyaf.
LAWRENNY, plwyf yn nghantref NARBERTH,
swydd BENFRO, 5 milldir i'r Gogledd Ogledd Ddwyrain o orsaf rheilffordd Penfro. Erwau, 2672; o ba
rai y mae 310 dan ddwfr. Gwerth ardrethol, 1692p.
Poblogaeth, 339. Tai annedd, 74. Y mae helaethrwydd o geryg calch yn cael eu cyfodi yn y plwyf
hwn; ac y mae ei gloddio, a'i losgi, yn rhoddi gwaith
i lawer o'r trigolion; llawer o ba rai hefyd a fyddant
ar waith yn y gauaf yn treill-rwydo llymeirch, o ba
rai yr anfonir llawer i wahanol farchnadoedd yn
Lloegr. Y mae y tir yn eiddo G. Lort Phillips,
Ysw., o Blas Lawrenny. Y mae y fywioliaeth
eglwysig yn berigloriaeth, yn esgobaeth Ty Ddewi;
gwerth 168p. Noddwr, George Lort Phillipe, Ysw.
Y mae yr eglwys yn gyssegredig i St Caradog, hen
feudwy a hanai o deulu cyfrifol yn swydd Frycheiniog. Y mae yr eglwys yn adeilad hardd, a da; ac y
mae tua haner cant o bunnau at law y swyddogion
plwyfol, i'w rhanu yn flyneddol mewn elusenau.
LEADBROOK (FWYAF A LLEIAF), dwy drefgordd yn mhlwyf Llaneurgain, swydd Fflint; 2.
filldir i'r Dehau o Fflint. Poblogaeth, 106 a 49.
Tai annedd, 21 a 7.
LECKWITH, neu LLANFIHANGEL LEGWYDD, sydd blwyf, o fewn dwy filldir i Gaerdydd, swydd FORGANWG, DEHEUDIR CYMRU. Gan fod ei sefyllfa mor agos i dref fawr fasnachol, mae yn naturiol iddo gyfranogi i raddau o bwysigrwydd y dref hono. Rhed afon Elai trwy ran o'r plwyf hwn, ac abera yn ngodre y plwyf: ac y mae cangen Gledrffordd Penarth hefyd yn rhedeg trwyddo. Gan fod masnach helaeth yn cael ei dwyn yn mlaen ar y gledrffordd hon, y mae wedi dwyn y plwyf hwn i fwy o werth yn y blyneddau diweddaf. Y prif weithfeydd a ddygir yn mlaen yn y plwyf, ydynt Waith Rhaffau, gwaith calch, a gwaith Goleunwy (Gas-works) Caerdydd. Yr Eglwys yw yr unig addol-dy yn y plwyf; bywioliaeth yr hon sydd rectoriaeth yn unol a Llandoche a'r Cogan, yn nawddogaeth Ardalydd Bute; yr hwn yw perchen y plwyf, ac arglwydd y faenor. Poblogaeth y plwyf yn 1871, oedd 169.
LEIGHTON, capeloriaeth trefgorddawl yn mhlwyf Worthen, yr hwn sydd yn y rhan-barth isaf o gantref CAWRSE, Swydd Drefaldwyn; 2 filldir i'r De Ddwyrain wrth Ddehau o'r Trallwm; gerllaw Clawdd Offa, a'r afon Hafren, ac yn agosi reil-ffordd Cacrlleon a Llanidloes, islaw y Mynydd Hir, yn agos