"Oh Dafydd! Dafydd!"
yntau yn canlyn, a'r ddau yn chwerthin am y gora fel dau ffwl gwirion, a'm gadal ina'n ffwl gwirionach fyth i sbio arnyn nhw heb wybod beth oedd yn bod. A dyna lle 'roedd y bobol erill yn y lobi o gwmpas, byddigions i gyd, yn spio'n syn ar y ddau wirion rheiny'n chwerthin fel tasa nhw mewn pantomeim.
Ond mi welodd Ellis y mod i mron digio, ac mi eglurodd bethau i mi. Mi roeddwn i wedi gweld yr enw ganwaith yn y papura fel hyn:
"Mr. Marjoribanks,"
a chan nad ydw i'n rhyw lawar iawn o Sais, mi roeddwn i wedi ddarllan o fel hyn:
"Mr. Majority banks."
Ond mae'n debyg fod y Saeson gwirion yn 'i swnio fo fel yma:
"Mr. Marshbanks."
Ar ddull wirion y Saeson o spelia'n 'u geiria, ac o'u deyd nhw ar ol u spelian nhw, ac nid arna i, rodd y bai'n bod.
"Ond na hitiwch, Mr. Dafis," ebe Ellis ar ol egluro'r cwbwl imi. ""Toeddach chi ddim yn mhell o'ch lle chwaith, ac mi gyma i fy llw y cofir yr enw roisoch chi arno yn hir; waeth 'toes neb yn haeddu'r enw Majority' yn well na fo, na neb wedi gwneud mwy i sicrhau'r majority drwy'r session yma."
A chyn imi madal a'r Tŷ y noson hono mi roedd y stori wedi mynd drwy'r lle, a phawb yn spio ar f'ol i fel y dyn oedd wedi rhoid yr enw newydd i'r Chief Whip; a llawar o honyn nhw'n credu mai joke oedd o gin i, ac nid tipyn o anwybodaeth ar fy rhan. Ond mi ddeydodd Ellis y gwir, ac ma'r enw " Majority Banks" yn glynu wrth y boneddwr byth.