Ble mae Griffiths, gynt o Gower,
Gwr defnyddiol yn ei amser,
Parry o Llywel, parchus enw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae Williams o Llanwrtyd,
Evan Rees, gynt o Llanrhystyd,
Evans, Aber, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Daniel Jenkins o Sir Fynwy,
David Morris, Capel Hendre,
Charles, Caerfyrddin, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae'r enwog Jones, Treforris,
Ac yn Merthyr ble mae Harries,
Rees, Llanelli, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae Gwillim fawr Hiraethog,
Ble mae Williams o Llangadog,
Williams, Wern, yr hyawdl hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae'r hybarch Robert Owen,
A James Hughes o ddinas Llundain?
Hoff gan lawer wel'd eu henw,
Er eu bod yn mhlith y meirw.
Ble mae Davies, gynt o Nantglyn,
Ble mae Morgans o Llanfyllin,
Robert Ellis, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ble mae Foulkes o Abergele,
Robert Owen, Richard Lumley,
Parry o Gaer nid lleiaf hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/5
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8e/Dagrau_hiraeth_-_neu%2C_alareb_goffadwriaethol%2C_lle_y_gwneir_coffhad_am_dros_ddau_cant_a_deg-ar-hugain_o_weinidogion_yr_efengyl%2C_perthynol_i%27r_gwahanol_enwadau_crefyddol_yn_mhlith_y_Cymry_%28IA_wg35-5-244%29.pdf/page5-689px-thumbnail.pdf.jpg)