![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0a/Dringo%27r_Andes_%28page_45_crop%29.jpg/500px-Dringo%27r_Andes_%28page_45_crop%29.jpg)
PENNOD V.
LLE'R BEDDAU
NGHANOL dwndwr a helynt y croesi, cefais
egwyl fechan i orffwys a syllu o'm cwmpas.
Yr oeddym wedi croesi i'r ochr ddeheuol
am na allem ddilyn yr afon ymhellach
ar yr ochr ogleddol, ac wrth edrych ar y
clogwyni ysgythrog a'r hafnau dyfnion,
cofiais yn sydyn fod yna un o hanesion pruddaf y
Wladfa yn gysylltiedig â'r fangre unig honno.
Nid oeddwn i ond ieuanc iawn pan ddigwyddodd y gyflafan yn Lle'r Beddau, ond mae'r cyfan yn boenus o fyw yn fy nghalon o hyd.
Aethai pedwar o Wladfawyr ieuainc am wib i weld y wlad. Yr oeddynt yn llawn o ysbryd anturiaethus, ac awydd angherddol am gael gwybod beth oedd yn yr eangderau mawr, distaw, a'u cylchynnent ar bob llaw. Yr oeddynt wedi clywed am yr Andes o bell, a breuddwydient fod yno aur ac arian a rhyfeddodau anhygoel. A