![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4a/Dringo%27r_Andes_%28page_54_crop%29.jpg/500px-Dringo%27r_Andes_%28page_54_crop%29.jpg)
PENNOD VI.
Y FFRWD GYNTAF
ID dyddorol fyddai dilyn y teithiau o ddydd
i ddydd; felly, ni a wibdeithiwn nes
cyrraedd o honom i'r mynyddoedd. Ar
y Saboth yn unig y caffai dyn ac
anifail gyfle i orffwys; canys ni theithiem
ar y diwrnod hwnnw oni bae fod rhyw
angen mawr. Ond nid gorffwys i gyd fyddai rhan y
merched, canys dyma ein diwrnod pobi! Eithr na.
chyhoeddwch hyn yn Gath. "A sut mae pobi ar y
paith?" meddech. A oes rhai o foneddigesau Cymru.
hoffent wybod, tybed? Rhag ofn fod, gwell rhoi rhyw
led amcan, ond rhaid dod i Batagonia i ddysgu yn iawn.
Gwneir twll hirgul yn y ddaear, heb fod yn ddyfn iawn,
a llenwir â thanwydd,-bydded hysbys fod eisieu bod yn
hael gyda'r tanwydd, yna, wedi llosgi o'r coed yn farwor,
tynner ychydig o'r naill du, a doder y sospan, yn yr hon y
mae'r dorth, ar y ddaear boeth, ac wedi gofalu fod y clawr