Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crist sydd oll yn oll i bechadur. (Y mae yn nodedig i sylwi arno, mai y dydd y daeth William Williams â'r llyfr hymnau a elwir "y Môr o Wydr" i Langeitho, y torodd y diwygiad allan, ar ol hir auaf a fuasai yn gorchuddio yr eglwysi yn achos y rhwyg y soniwyd am dano o'r blaen.) Ac er mor hyfryd oedd y dyddiau gorfoleddus hyn, a'r mawr angenrheidrwydd oedd o gyhoeddi yr efengyl yn ei goleu a'i phurdeb, er mwyn dadymchwelyd yr hen athrawiaethau deddfol, tywyll, ag oedd yn gorlenwi y wlad; er hyny y mae lle i amheu a oedd pawb oedd yn pregethu yr athrawiaeth oleu, ddysglaer, am gyfiawnhad rhad, mor ofalus ag y buasai da i ddangos yr angenrheidrwydd o ffrwythau ffydd, megys y dywed Iago, mai ffydd heb weithredoedd marw yw. Ni bu un udgorn arian erioed yn cyhoeddi rhad ras yn fwy soniarus na'r apostol Paul; er hyny, megys â'r un anadl, dwys anogai bawb i fod yn awyddus i weithredoedd da, ïe, i flaenori mewn gweithredoedd da; ac yn ol addysg ein Hiachawdwr: "Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd." Ond er mor hawddgar a dymunol ydyw yr haf cynhes, eto y mae llawer o fwystfilod gwenwynig yn ymlusgo o'u llochesau, a llawer o chwŷn drygsawr yn tyfu yn y gerddi hyfrydaf. Ac er fod yr iachawdwriaeth, yn y cymhwysiad o honi, yn ei natur yn dysgu dynion i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol; er hyny bu rhai yn mhob oes mor felldigedig a cheisio troi gras ein Duw ni i drythyllwch; fel yr Israeliaid gynt, yn eistedd i lawr i fwyta, a chyfodi i fyny i chwareu. Bellach i geisio ateb eich gofyniad, sef pa bethau yn fwyaf enwedigol a ddefnyddiodd y gelyn uffernol, tuag at anharddu a diddymu y gwaith grasol oedd yn cael ei ddwyn ymlaen gan Dduw yn ein gwlad. Tywynai yr haul yn rhy ddysglaer yn y dyddiau hyny i Arminiaeth ddangos ei gwyneb. Fe feddyliodd yr hen Satan gyfrwysddrwg mai gyru y butain hòno a elwir Penrhyddid, yn ei glan-drwsiad, oedd oreu. Gelwir hi yn llyfr y Datguddiad, Jezebel, a chan John Bunyan, Hyder gnawdol. Daeth hon a'i gwên ar ei genau, mewn gwisg ddgeithriol, i gyfarch gwell i deulu Sïon. Cafodd dderbyniad go helaeth gan rai oedd heb ei hadnabod; ond yr oedd ereill yn graffach eu llygaid, ac yn lletya un o'r enw Ofn Duwiol yn y teulu, ac hefyd wedi darllen ei hanes yn y 7fed a'r 9fed bennod o'r Diarebion. Ond gwnaeth gryn niwaid i'r rhai hyny hefyd, cyn iddynt ei llwyr adnabod: dywedir fod gradd o gloffni ar rai o'i phlegyd ddyddiau eu hoes. Denodd rai i falchder a choeg-ddigrifwch; llithrodd ereill i ddiota yn ormodol; hudodd amryw i ddylyn chwantau ieuengctyd, nes gwywo eu proffes i raddau mawr.