Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei gefnderwyr, gael dysgeidiaeth lled dda. Urddwyd ef yng Nghaeronen, Hydref, 1688. Cydlafuriodd â'i gefnder, Jenkin Jones, Llwyn Rhys, hyd y flwyddyn 1692. Dywedir taw efe fu y gweinidog blaenaf yn y cylch o hyny allan hyd ei farwolaeth. Bu yn y weinidogaeth 36 flynyddau.

EDWARDS, JOHN, diweddar beriglor Llanfihangel ar Arth, oedd enedigol o ardal Ystrad Meirig. Cafodd ei ddwyn i fyny yng Ngholeg Dewi Sant. Cafodd ei urddo ar Landyssilio Gogo. Symmudodd wedi hyny i Sulian. Bu yn Beriglor Llanfihangel ar Arth am tua deuddeg mlynedd. Bu farw Medi 9, 1860, yn 52 oed. Yr oedd yn bregethwr gwych, yn gymmydog hawddgar iawn, a Christion diffuant Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig yn y plwyf.


EDWARDS, LODWIG, a aned ym Mhant y Rhew, ger Gartheli. Dygwyd ef i fyny yn Ystrad Meirig. Bu yn cadw ysgol mewn amryw fanau. Bu am ryw amser yn pregethu gyda'r Ymneillduwyr. Ymunodd â'r Eglwys, a chafodd ei urddo ar guradiaeth ym Morganwg, lle y llafuriodd yn galed am flynyddau. Pan yn ymadael â Llangatwg, dangosodd y plwyfolion eu parch iddo trwy ei anrhegu â llestri arian drudfawr. Cafodd berigloriaeth Rhymni yn 1843, yr hon a ddaliodd hyd ei farwolaeth, yn y flwyddyn 1855. Llafuriodd yn rhyfeddol o galed yn Rhymni, a bu yn llwyddiannus iawn. Perchid ef gan bawb, Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Priodolid ei afiechyd i eithafion llafur. Gorphwys ei weddillion ym mynwent Llangeithio, ac ar ei gof-faen yr englyn a ganlyn: —

" Dygai ei weinidogaeth— oleuni
A dylanwad helaeth ;
Pob calon yn union wnaeth
Dyneru dan ei araeth."


EDWARDS, THOMAS, un o berigloriaid corawl Llanddewi Brefi, yr hwn a gydsyniodd â'r oruchafiaeth yn 1534, ac eilwaith yn 1553.


EINION, Abad Ystrad Fflur yn amser Cynan ab Meredydd. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion y Dywysogaeth.