Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt; i wrando gwasanaeth crefyddol Cymraeg y mynnwch eu harwain. Yn awr, pa fodd y gall yr adnodau, yr emynau, a'r pregethau hyn gyrraedd eu hamcan arnynt, oni byddant yn eu prisio ac yn eu deall; a pha fodd y deallant hwy hwynt os na ddysgir hwy? Gan fod eich Saesneg chwi sy'n rhieni iddynt mor garpiog—mor garpiog o'r hyn lleiaf â'ch Cymraeg y mae'ch plant yn tyfu i fyny heb fedru siarad un iaith yn briodol. Yr wyf yn dweud hyn er cofio eu bod mewn ysgolion beunyddiol. Y mae arnaf ofn bod rhieni yn taflu'r gwaith o ddysgu eu plant yn rhy lwyr ar athrawon yr Ysgol Sabothol, yn gystal â rhai'r ysgolion beunyddiol. Y mae cael offeiriaid a bugeiliaid ac athrawon ysgolion i roddi addysg grefyddol i blant wedi dyfod yn fath o angenrheidrwydd erbyn hyn. Y mae llawer mam foethus yn cadw mamaethod llaeth mewn mwy nag un ystyr. Y peth nesaf a wna'r mamau hyn fydd rhoddi genedigaeth i'w plant trwy ddirprwy.

Y mae athrawon yn dra buddiol fel cynorthwywyr, ond ni ddylid gwneuthur dirprwywyr ohonynt. Yn briodol, braint a gwaith rhieni yw dysgu eu plant. Hwynt—hwy a allai wneuthur y gwaith hwn orau o lawer. Yn awr, un o'r pethau hynny y perthyn i'r rhieni eu dysgu mewn modd arbennig