Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydych mor anewyllysgar i dynnu i lawr adeilad mor hen, mor dyllog? "A! am ei fod felly y mae mor werthfawr yn ein golwg; y mae swyn yn ei henaint; y mae ideas yn ei dyllau." Beth, a yw pobl Dinbych hefyd ymysg y Ceidwadwyr? A yw golwg ar yr hen gastell yn gyrru eu Radicaliaeth i ffoi? O! na theimlent at eu hiaith fel y maent yn teimlo at eu castell; a hynny am yr un rhesymau, oni wyddant am rai cryfach. Ond y maent hwy, er yn arddel eu castell, yn gwadu eu hiaith. Gwna rhai ohonynt y fath "ymdrechion gorchestol" i ddynwared y Saeson fel y bo'n amhosibl i ddyn wybod mai Cymry ydynt—hyd oni chlywo hwynt yn siarad Saesneg. Gwyddoch fod gwŷr enwog yn Lloegr yn ysgrifennu'n gryf, ond yn ofer ysywaeth, yn erbyn yr ysbryd Vandalaidd sy'n llywodraethu'r dosbarth masnachol yn Lloegr; sef y dynion hynny a dynnai i lawr dŵr Llundain er mwyn cael y cerrig i godi darllawdy. Ai tybed nad oes gennyf innau a'm bath gystal achos i achwyn yn erbyn Vandaliaeth y meinionbethau hynny sy'n gwastraffu eu hamser i ddinistrio iaith na fedrasant hwy erioed mo'i dysgu: dynion sy'n dywedyd "surion, surion," am y sypiau grawnwin mawrion aeddfed" y maent hwy'n rhy gorachaidd i'w cyrraedd; dynion sydd â'u clychau trystiog diorffwys yn canu cnul claf nad