Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cribog y tu hwnt iddo, ond ni welais mohonynt ers wythnosau, ac y mae'n amheus gennyf a welaf hwynt eto, canys y mae'r tarth yn gorwedd arnynt mor ddioglyd a phe na bai byth yn meddwl cyfodi. Gwn fod y môr yn agos, a bod clebren o afon yn cludo chwedlau iddo o Lyn——; ond nid yw sŵn y naill na'r llall yn cyrraedd hyd ataf rhag tewed yr awyr. Nid oes dim sŵn amgen na sŵn marwaidd a mesuredig y glaw. O! fy nhad, ni elli ddychmygu fel y mae tywydd y wlad hon yn pylu cynheddfau dyn ac yn gorthrymu ei ysbryd. Nid rhyfedd gennyf fod cynifer o'r trigolion mwyaf pruddglwyfus yn cymryd eu temtio tua diwedd y flwyddyn i achub y blaen ar Angau, ac i redeg i ymdwymo i Uffern, o ganol tarth mor oer a llaith!

Yr wyf yn gweled erbyn hyn ddangos ohonot dy fod yn ŵr doeth pan orchmynnaist na thraethwn fy marn wrthyt am y Cymry a'u pethau hyd oni fyddwn wedi dysgu eu hiaith, ac ymdroi am fisoedd wedi hynny yn eu plith. Dylit gyhoeddi'r gorchymyn hwn yn Saesneg, er mwyn y praidd a arweinir gan y bugeiliaid Cook o westy i westy ar draws y Cyfandir. Bydd llawer o'r teithwyr brysiog ac unieithog hyn, cyn gynted ag y dychwelont adref, yn ymosod i lefaru ac i ysgrifennu pethau rhyfedd amdanom ni, Gyfandirwyr. Er hynny, byddai'n