Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth; pa un ai creaduriaid grasol yn marw pan fynno eraill, ai ynteu creaduriaid cyndyn, herllyd, yn marw pan fynnont hynny eu hunain, yw'r perthnasau? Pa beth yw cyflwr eu cylla? A ydyw eu hysgyfaint yn holliach? Os felly, a ydyw'n debygol y dymchwelir hwynt yn ddisymwth gan y parlys neu ag ergyd haul? &c., &c. Nid yw'r rhai hyn ofyniadau di—bwys hyd yn oed yn Fflandrys. Y maent ym Mhrydain yn bwysicach na gofyniad ceidwad y carchar i Baul a Silas.

Wi! gwelaf i'r Gymraes yma fy nhynnu oddi ar fy llwybr fel y tynnodd y Graig Fagnedig long Agib. Glynaf, bellach, fel ci tarw wrth yr ll hyd ddiwedd yr hanes. Dyn sobr oedd y tad fel y dywedais, ac am hynny medrodd ef wneud yr hyn y methodd ei fachgen â'i wneud. Cyn pen munud awr yr oeddwn yn medru seinio ll cystal â neb—ac yn gwybod hefyd nad yw deintyddion Prydain ddim mor daclus eu gwaith o lawer â deintyddion Belg.

Ymddengys i mi mai llyfnder geiriol ac ystwythder brawddegol yw prif ragoriaethau'r Gymraeg. Y mae hi, yn y peth blaenaf yn rhagori ar y Ffrangeg, ac yn y peth olaf yn rhagori hyd yn oed ar yr Ellmynneg a'r Italeg. Nid oes ynddi gynifer o lafarogion agored ag sydd yn yr Italeg ac ieithoedd eraill deheudir Ewrop, ac am hynny nid yw hi mor