Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd ar y Cymry, canys nid oes nemor ohonom ni heb fedru'r Ffrangeg.

Paham, meddi, y mae'r Cymry'n goddef y fath orthrwm afresymol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg?—Am fod y rhan fwyaf ohonynt wedi myned yn rhy wasaidd i deimlo dim oddi wrtho. Clywir y rhai mwyaf penwan ohonynt hwy eu hunain yn gofyn yn ddigon digywilydd, naill ai o fregedd neu o ddifrif, Paham y gwneir ymdrech i gadw'r Gymraeg yn fyw?' Ni chlywais fod cwp! o lanciau erioed wedi trochi'r cyfryw rai er mwyn calleiddio tipyn arnynt.

Y mae'r ysbryd ymwahangar neu ddosbarthol sy'n llywodraethu pobl y wlad hon, ynghyd â'r ysbryd proselytiol sy'n corddi'r gwahanol gyfun— debau, yn eu cymell i adeiladu capelau costus gogyfer â Saeson, a Chymry Seisnigaidd. Pan ddelo Seisyn i ardal Gymreig, brysia'r cyfundeb hwn i godi capel iddo, yna cyfundeb arall, nes peri i ddyn dybied ddarfod cyflawni'r broffwydoliaeth sy'n dywedyd: "Yn y dydd hwnnw, saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr," &c. Gan na ddichon Sais, er cymaint dyn ydyw, lenwi tri neu bedwar o gapelau, bydd yn rhaid i'r achoswyr Seisnig arfer pob rhyw foddion i hudo Cymry o'r capelau Cym— raeg. Ni bydd yr hudo hwn yn myned yn gwbl