Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthsefyll holl Ewrop; am hynny diorseddasant eu Hymerodr ac a wnaethant amodau heddwch â'u gwrthwynebwyr. Fe gytunodd Napoleon i ym— alltudio i Ynys Elba, ac yn ddi-oed fe esgynnodd Louis 'r Deunawfed i orsedd Ffrainc. Cyn pen hir fe glywodd Napoleon nad oedd y brenin hwn ddim yn rhyngu bodd i'r Ffrancod ymhopeth; ie, ef a glywodd fod y cynrychiolwyr oedd wedi ymgyfarfod yn Vienna i ad-drefnu map Ewrop ac i rannu'r ysbail wedi myned i ymdaeru â'i gilydd, a bod Ostria, Lloegr, a Ffrainc eisoes yn ymbaratoi i fyned i ryfel yn erbyn Prwsia a Rwsia. Yr oedd aelodau'r Gyngres ar fedr ymwahanu pan ddygwyd iddynt y newydd brawychus fod Napoleon wedi dianc o Elba ac wedi glanio'n ddiogel ar dueddau Ffrainc. Gresyn iddo fod mor frysiog, canys pe buasai fo wedi oedi dychwelyd hyd ryw fis ymhellach, fe a gawsai'r boddhad o weled prif alluoedd Ewrop yn rhy brysur yn ymladd â'i gilydd i allu ymyrryd ag ef. Dyma'r amryfusedd cyntaf a wnaeth Napoleon yng nghorff yr amser a elwir yn "gan niwrnod." Er cymaint oedd llid y galluoedd yn erbyn ei gilydd, yr oedd eu cenfigen yn erbyn Napoleon yn fwy; am hynny, hwy a benderfynasant ymheddychu â'i gilydd er mwyn ymuno ynghyd i ddarostwng yr hwn a alwai Siôr y Trydydd "the Corsican upstart," yr hyn o'i