Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wahanol i Blücher o ran ei dymer, er ei fod o ran cyneddfau yn debycach i Blücher nag i Napoleon. Dyn pwyllog a thra gochelgar oedd o; ac er ei fod yn falch a phenderfynol iawn, eto nid oedd o un amser yn rhy falch i gilio rhag gelyn cryfach nag ef ei hun. Ond er y byddai fo'n fynych yn gwrthod brwydr, ni byddai fo byth yn ymroddi ar ôl ei derbyn. Fel ymladdwr amddiffynnol ar faes cyfyng yr oedd o'n ddiguro; ond yr oedd o'n rhy amddifad o ddychymyg i ragori fel ymladdwr ymosodol ar gylch eang. Y mae hyn yr un peth a dweud ei fod yn daethegwr—yn tactician rhagorol, ond ei fod yn stradegydd—strategist israddol. I allu cynllunio ymlaenllaw, y mae'n rhaid i ddyn allu gweled yr anweledig; a rhagoriaeth uchaf Wellington oedd gallu gweled yn eglur yr hyn oedd ger ei fron yn unig. I wneuthur cyfuniadau mawrion a llydain. cyn brwydr y mae'n rhaid wrth awen (genius), ac nid ydoedd gan Wellington ddim awen. Er bod y gwŷr cymhwysaf i farnu yn addef iddo wneud camgymeriadau pwysig yn yr India, yn y Sbaen, ac ym Melg hefyd; eto, trwy ryw ddamwain neu'i gilydd, ni ddioddefodd fawr o niwed oddi wrth y camgymeriadau hynny; ac oblegid hyn y cyfrifid ef yn ei ddydd y maeslywydd mwyaf ffortunus yn Ewrop. Ni ellir ei osod ef gyda Napoleon a Hannibal yn