Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd Quatre Bras. Ymddygiad anturus y rhain a gadwodd y sefyllfa bwysig honno rhag syrthio i ddwylo rhagfilwyr y fyddin Ffrengig. Cyn gynted ag y bu'n wiw gan Napoleon roi swydd i Ney yn ei fyddin, ef a ymddiriedodd iddo fintai gref o filwyr, gan orchymyn iddo ysgubo popeth oddi ar ei ffordd yn Quatre Bras, ac yna ar ôl gadael rhai o'i wŷr i feddiannu'r lle, brysio gyda'r lleill ar hyd ffordd Namur er mwyn ymosod ar gefn ac asgell aswy'r Prwsiaid, tra byddai fo'n ymosod arnynt o'r tu blaen. Fe fuasai'n hawdd iawn i Ney wneud hynny pe buasai fo'n debyg iddo'i hun; ond am y rheswm a grybwyllais o'r blaen, yr oedd o yn y rhyfel hwn yn hollol ffwndrus, gan ei fod yn gweithredu weithiau yn rhy arafaidd ac weithiau yn rhy frysiog. Wrth weled milwyr yn yr adeiladau, yn y coed, a thu ôl i'r cloddiau, yn Quatre Bras, fe dybiodd o fod holl fyddin Wellington o'i flaen; ac am hynny ef a oedodd ddechrau brwydro hyd oni chyrhaeddai chwaneg o'i adnoddau; ac ar ôl dechrau ymladd, ymladd yn llesg a gochelgar iawn a wnaeth o, fel pe buasai arno ofn syrthio i fagl. Fe roes hyn gyfle i Wellington, o ganol y prynhawn ymlaen, i ddwyn mintai ar ôl mintai o Brüssel, fel yr oedd ganddo cyn nos gymaint ddwywaith o wŷr ag oedd gan Ney, er bod gan Ney cyn dyfodiad Picton gymaint