Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl fyddin wedi cyrraedd yno erbyn hynny; ac felly yr oedd hi ar y ffordd i Brüssel oedd yn gyfochrol â'r ffordd oedd yn myned o Quatre Bras i Brüssel trwy Waterloo a thrwy ganol coedwig Soignes. Ar hyd y ffordd olaf hon yr enciliodd Wellington a'i lu ar ôl iddo glywed am orchfygiad ac encil y Prwsiaid. Fe hysbyswyd iddo fod Blücher yn bwriadu crynhoi ei filwyr yn Wavre, ddeuddeng milltir o du'r dwyrain i Waterloo, ac fe ddanfonodd yntau gennad i hysbysu Blücher y gwrthsafai fo Napoleon ym Mont St. Jean o flaen Waterloo tan yr amod bod Blücher yn addo anfon dau gorfflu o bum mil ar hugain i'w gynorthwyo. Fe atebodd Blücher y deuai o i'w gynorthwyo, nid â dau gorfflu yn unig, eithr â'i holl fyddin. Nid oes eisiau dweud yr enciliasai Wellington o Waterloo fel yr enciliodd o o Quatre Bras pe nad addawsai Blücher ymuno ag ef. Y mae'n iawn dweud hefyd na buasai Blücher chwaith, er mor feiddgar oedd o, ddim wedi addo dynesu at Wellington ar draws y wlad o Wavre, pe gwybuasai fo fod Napoleon wedi danfon Grouchy ar ei ôl; canys fe fuasai'n hawdd i hwn groesi ei lwybr a'i atal dros hir amser yn y mynedfeydd culion sy rhwng Wavre a Waterloo. Yr oedd penderfyniad Blücher a Wellington i ymuno yn Waterloo yn eu gosod mewn sefyllfa fwy peryglus nag yr oeddynt