Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim i gyd o fewn y ddwy ffordd y mae dwy goes y llythyren yn eu dynodi, canys yr oedd esgyll y ddwy fyddin yn ymestyn drostynt ymhell. Yn wir, yr oedd La Belle Alliance ar ffordd Genappe yn hytrach ynghanol byddin ôl Napoleon nag ar ei chwr.

Y mae ychydig o wahaniaeth barn rhwng yr awdurdodau am rifedi'r ddwy fyddin. Fe ddywed hanesyddion Ffrainc mai 68,000 o filwyr oedd gan Napoleon, a bod gan Wellington 75,000; ac fe ddywed prif hanesyddion Prydain a'r America mai 68,000 neu 70,000 oedd gan Wellington, a bod gan Napoleon 72,000 o leiaf.[1]

Credu yr wyf i mai'r rhai olaf sydd gywiraf yn hyn o beth; er hynny, y cwbl sy sicr ydyw na allai byddin Napoleon ddim bod yn fwy na 72,000, ac na allai byddin Wellington ddim bod yn llai na 68,000. Felly, ac arfer rhif cofadwy, oddeutu deng mil a thrigain oedd nifer pob un o'r ddwy fyddin. Ond am ychydig iawn o amser y bu'r ddwy fyddin yn ogyfartal; canys yn fuan ar ôl i'r frwydr ddechrau fe fu raid i Napoleon anfon deng mil o filwyr i

  1. Y mae awdur y Great Commanders of Modern History yn dywedyd i Wellington ddwyn 45,000 o Quatre Bras, iddo alw 21,000 o Nivelles, a rhyw 4,000 o leoedd eraill, a bod ganddo felly 70,000 ar y maes, heblaw'r 17,000 neu 18,000 a adawodd o yn Hal i ddiogelu ei asgell dde.