Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag yn gadlywydd, yr oedd rhesymau gwleidyddol yn ei rwystro i wneud hynny. Heblaw hynny, yr oedd o'n disgwyl y buasai Grouchy yn ymosod ar y Prwsiaid o'r tu cefn tra byddai Lobau gydag adran o'i fyddin ef yn ymosod arnynt o'u blaen; ac felly, y dinistrid hwynt rhwng dau dân. Ond y mae'n hysbys bod Grouchy wedi colli golwg ar y rhan fwyaf o fyddin Blücher, ac yn tybied ei bod i gyd o'i flaen gerllaw Wavre.

Er cymaint o ddryswch a barodd ymddangosiad y Prwsiaid i Napoleon, yr oedd o'n gwbl hyderus y gallai fo eu gwrthsefyll hwy a gorchfygu byddin Wellington hefyd. Yr oedd o erbyn canol y pryn— hawn wedi ysgytio cymaint ar y fyddin hon, ac yr oedd yr arwyddion ymhob cyfeiriad mor ffafriol, fel y danfonodd o gennad i Baris i hysbysu nad oedd dim amheuaeth mwyach am ganlyniad y frwydr; ond yn fuan wedi hyn fe aeth ei obaith am fuddugoliaeth yn llai sicr, canys pan oedd hi'n hanner awr wedi pedwar ar gloch fe lwyddodd y Prwsiaid i ymwthio hyd i'r maes. Calonogodd hyn y fyddin gyfunol yn fawr, a digalonnodd ychydig ar y fyddin Ffrengig. Bellach yr oedd yn rhaid i Napoleon droi wyneb ei asgell dde tua'r dwyrain er mwyn ymladd â'r Prwsiaid. Rhwystrodd hyn hwynt rhag ymosod yn effeithiol ar asgell aswy byddin Wellington. Pan